Mae Cronfa Risg Cymru yn rhan o Wasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae’n sicrhau bod gan yr holl Ymddiriedolaethau ac Awdurdodau Iechyd yng Nghymru’r modd i gael eu hindemnio yn erbyn risg. Rôl Cronfa Risg Cymru yw cymryd ymagwedd integredig at asesu risg, rheoli hawliadau, ad-dalu a dysgu i wella. Mae’r tîm yn cydweithio â staff y GIG ledled Cymru i hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd i ddysgu a chefnogi’r gwaith o ddatblygu a gwneud gwelliannau i wella diogelwch a chanlyniadau cleifion.