Neidio i'r prif gynnwy

Isobel Smith

Isobel Smith

Mae Isobel yn gweithio fel Asesydd Clinigol a Chynghorydd Gwasanaeth Cronfa Risg Cymru ac mae wedi bod yn y rôl hon ers deng mlynedd.  Mae Isobel yn Nyrs Gofrestredig a chymhwysodd hefyd fel Bydwraig ym 1982.  Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys asesu ac adolygu rheoli risg Byrddau Iechyd Caerdydd a'r Fro a Phowys yng Nghymru a pherfformio Adolygiadau Hawliadau yn unol â gofynion Pwyllgor Cronfa Risg Cymru mewn hawliadau esgeuluster clinigol ac anafiadau personol, yn ogystal â chyflwyno hyfforddiant rheoli risg i gyrff y GIG ledled Cymru hefyd.  Mae'r rôl yn cynnwys cyfathrebu â staff ar bob lefel i gefnogi ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth a rheoli risg i ddiogelu diogelwch cleifion.  Yn ei chyflogaeth flaenorol roedd Isobel yn Brif Nyrs Anestheteg/Adfer yn BUPA. Cafodd ei dyrchafu'n Rheolwr Cydymffurfiaeth Rheoleiddio ac roedd yn allweddol wrth weithredu safon ansawdd ISO9002 mewn tri ysbyty yn y grŵp ac arweiniodd dîm yn Rhaglen Achredu'r Gwasanaeth Iechyd yn llwyddiannus.  Treuliodd gyfnod byr hefyd yng Nghyprus yn gweithio fel Cyfarwyddwr Sicrwydd Ansawdd fel rhan o dîm comisiynu Prydeinig ar gyfer Ysbyty Cyffredinol newydd ar yr ynys.

Cyswllt


E-bost: Isobel.Smith@wales.nhs.uk