Neidio i'r prif gynnwy

Sue Derbyshire

Sue Derbyshire

Mae Sue Derbyshire yn un o’r ddau asesydd clinigol ac ymgynghorwr diogelwch a dysgu yn nhîm Cronfa Risg Cymru. Mae Sue wedi bod yn gweithio i Gronfa Risg Cymru ers 2004, yn gyntaf ar secondiad yn asesydd dros dro cyn dechrau ei swydd bresennol yn 2005. 

Cyn hyn, bu i Sue dreulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn nyrsio mewn adrannau achosion brys. Yn ei rôl yng Nghronfa Risg Cymru, mae’n hyrwyddo diogelwch a dysgu ac yn rheoli risg clinigol. I’r perwyl hwn, mae’r ddau asesydd yn dadansoddi ac yn darparu gwybodaeth i Bwyllgor Cronfa Risg Cymru am hawliadau newydd a gaiff eu cyflwyno am daliadau. Maent yn gwneud argymhellion hefyd mewn perthynas â chymeradwyo neu, ar y llaw arall, ohirio neu wrthod taliadau pan fo angen mwy o sicrwydd ynglŷn â’r systemau a’r prosesau sydd ar waith. Mae adolygiadau trylwyr o ardaloedd clinigol risg uchel yn rhan o bortffolios yr aseswyr hefyd a gall gynnwys dadansoddi risg clinigol yn sefydliadau’r GIG ledled Cymru, cynnig hyfforddiant ar reoli risg a chraffu ar bolisi. Mae’r cylch gwaith yn eang ac yn cwmpasu gwaith ar draws holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru.

Mae Sue yn gweithio yn y Bartneriaeth yn Nhŷ Alder, Gogledd Cymru. Mae’n briod ac yn byw yn Ynys Môn. Y tu allan i’r swyddfa, mae Sue yn mwynhau cyfarfod â theulu a ffrindiau. Mae hefyd yn mwynhau ymgymryd â gweithgareddau yn yr awyr agored fel garddio, cerdded llwybr yr arfordir, mynydda a nofio yn y môr.

 

Cyswllt


E-bost: Susan.M.Derbyshire@wales.nhs.uk