Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Cydsynio i Driniaeth a Gwella Archwilio Cymru Gyfan

Patient giving consent

Mae angen i weithwyr iechyd proffesiynol gael cydsyniad dilys ar gyfer unrhyw archwiliad, triniaeth neu ymyrraeth yn ymwneud â chlaf sydd â’r gallu i’w roi. Eithriadau i hyn fyddai mewn argyfwng, pan nad yw’n bosibl cael cydsyniad, neu pan fydd y gyfraith yn nodi fel arall, fel pan awdurdodir triniaeth orfodol ar gyfer anhwylder seiciatrig claf gan ddeddfwriaeth iechyd meddwl.

Er mwyn i gydsyniad fod yn ddilys, rhaid i’r claf:

  • Feddu ar gapasiti
  • Fod wedi cael cynnig gwybodaeth berthnasol sy’n cynnwys bod yn ymwybodol o’r holl opsiynau triniaeth, manteision, risgiau (gan gynnwys risgiau perthnasol), cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r driniaeth ac opsiynau amgen
  • Fod yn gweithredu o’i wirfodd
  • Fod yn ymwybodol y gall wrthod


Mae achos Montgomery v Lanarkshire Health Board (2015) wedi cau’r bwlch rhwng fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol, gan ymgorffori cysyniadau cydsyniad gwybodus a risgiau perthnasol ar gyfer cleifion unigol i’r gyfraith.

Gall cydsyniad fod yn ddealledig neu'n benodol, ar lafar neu'n ysgrifenedig. Mae hefyd yn broses barhaus, yn hytrach nag yn un penderfyniad a gall cleifion newid eu meddyliau am driniaeth ar unrhyw adeg. Mae gan gleifion sy’n oedolion cymwys yr hawl i wrthod triniaeth, hyd yn oed os yw hynny’n arwain at farwolaeth neu niwed difrifol.

Gallai parhau â thriniaeth heb gydsyniad dilys roi’r claf mewn perygl o niwed. Mae hefyd yn rhoi’r clinigydd sy’n ymgymryd â’r driniaeth, a’r clinigydd a geisiodd gydsyniad, yn agored i feirniadaeth ac, o bosibl, cosbau cyfreithiol a/neu reoleiddiol.