Neidio i'r prif gynnwy

Polisi Enghreifftiol ar gyfer Cydsynio i Archwiliad neu Driniaeth

Mae Grŵp Cydsynio i Driniaeth GIG Cymru Gyfan wedi diweddaru Polisi Model GIG Cymru ar gyfer Cydsynio i Gynnal Archwiliad neu Ddarparu Triniaeth. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar Gylchlythyr Iechyd Cymru – Canllaw ar gael Cydsyniad i Gynnal Archwiliad neu Ddarparu Triniaeth - canllawiau diwygiedig, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017, sy'n amlinellu’r fframwaith cyfreithiol ac yn sicrhau dull cyson ledled Cymru.

Dylai pob corff iechyd yng Nghymru adolygu unrhyw bolisïau lleol i sicrhau eu bod yn gyson â pholisi Model GIG Cymru wedi'i ddiweddaru a'r Canllawiau diwygiedig.