Isod mae'r ffurflenni cydsynio cyfredol i helpu clinigwyr GIG Cymru i gael cydsyniad gwybodus gan gleifion sy'n cael archwiliad neu driniaeth. Bwriedir i'r ffurflenni gael eu defnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol, a rhoi sicrwydd bod eu sefydliad yn cwrdd â'r safonau gofynnol. Y tair ffurflen gydsynio gyfredol yw:
Ffurflen Gydsynio 1 (ar gyfer pobl 16 oed a hŷn sydd â galluedd meddyliol a phobl o dan 16 oed sy'n bodloni gofynion Gillick)
Ffurflen Gydsynio 2 (Cytundeb unigolyn â chyfrifoldeb rhiant i archwilio neu drin plentyn o dan 16 oed nad yw'n bodloni gofynion Gillick)
Ffurflen Gydsynio 3 (Nid yw’r ffurflen hon bellach yn cael ei defnyddio yng Nghymru)
Ffurflen Gydsynio 4 (Mae Triniaeth er Budd Gorau ar gyfer cleifion 16 oed a hŷn sydd heb y galluedd i gydsynio i gynnal archwiliad neu ddarparu triniaeth).
Isod mae dolen i'r Canllawiau i Weithwyr Iechyd Proffesiynol sy'n llenwi Ffurflen 1 :
Canllawiau i Weithwyr Iechyd Proffesiynol