Mae digon o ddewis yng Nghymru, ni waeth p’un a ydych chi’n chwaraewr brwd neu’n rhywun sydd ond yn hoffi gwylio. Mae’r dewis yn amrywio o Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd i Felodrom Cymru yng Nghasnewydd, o Bwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe i Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaernarfon.
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy egnïol, beth am roi cynnig ar Hanner Marathon Caerdydd neu’r Her Tri Chopa? Os ydych chi’n fwy anturus byth, beth am roi cynnig ar Her y Welsh 3000s neu’r Iron Man yn Ninbych-y-pysgod?