Neidio i'r prif gynnwy

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

Natural Beauty

Mae pum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru y gallwch chi eu mwynhau, p’un ai a ydych chi’n hoff o gerdded, seiclo neu farchogaeth.

Ynys Môn

Mae gan Ynys Môn, sydd wedi ei galw’n Fam Cymru, 125 o filltiroedd o arfordir, ac yno mae 3 o’r 6 arfordir treftadaeth.

Ynys Mon delwedd

 

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Maen nhw’n dweud mai ‘gwlad y cerddwyr’ yw Bryniau Clwyd a Glyndyfrdwy yn y gogledd-ddwyrain, lle mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa sy’n mynd â chi o Brestatyn i’r Waun. Os seiclo sy’n mynd â’ch bryd gallech chi roi cynnig ar Goed Llandegla yn y de-ddwyrain, ac ymuno â’r 200,000 o seiclwyr eraill sy’n heidio yno bob blwyddyn.

Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy delwedd

 

Gŵyr

Cafodd Gŵyr ei henwi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ym 1956, a’r ardal honno oedd y gyntaf i ennill yr anrhydedd hon yng Nghymru. Mae Gŵyr yn enwog am ei thraethau, clogwyni a thwyni, a chred rhai mai’r ardal hon yw’r lle gorau i syrffio yng Nghymru. Mae Gŵyr hefyd yn lle gwych i archaeolegwyr, gyda dros 80 o henebion a safleoedd hynafol.

Gŵyr delwedd

 

Pen Llŷn

Mae Pen Llŷn yn estyniad o Eryri ac mae’n enwog am ei golygfeydd arfordirol a gweddillion o Oes yr Haearn. Mae gan yr ardal lwybr arfordirol 84 milltir o hyd hefyd sydd â childraethau a chlogwyni.

Pen Llŷn delwedd

 

Afon Gwy

Roedd Williams Wordsworth wrth ei fodd â Dyffryn Gwy a chanodd glod i’w ‘steep woods, lofty cliffs and green pastoral landscape’. Afon Gwy oedd y safle cyntaf i gael ei bennu’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac mae hefyd wedi ei enwi’n Ardal Cadwraeth Ewropeaidd Arbennig.

Dyffryn Gwy delwedd