Mae Cymru yn enwog am eu traethau sydd i’w cael ledled y wlad, lle gallwch chi gymryd rhan mewn nifer o chwaraeon dŵr fel syrffio, caiacio a hwylfyrddio. Neu beth am ymlacio a mwynhau prydferthwch naturiol yr ardal? Dyma rai enghreifftiau o draethau a chanolfannau gwyliau:
Bae Rhosili - y trydydd traeth gorau yn Ewrop yn ôl arolwg barn a gynhaliwyd yn 2015 gan y wefan deithio boblogaidd Tripadvisor.
Penrhyn Gŵyr - traeth tywod gwyn 3 milltir o hyd, a’r gyrchfan orau yn y DU yn ôl arolwg barn.
Dinbych-y-pysgod - Cyrchfan boblogaidd ar lan y môr yn Sir Benfro.