Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i Wasanaeth Archwilio Meddygol Cymru

Archwilydd Meddygol

Mae'r Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn darparu craffu llawn ar wasanaeth marwolaeth 7 diwrnod yr wythnos yn cynnwys gwyliau banc ac eithrio Dydd Nadolig, sy'n gofyn am gyflenwi Archwiliwr Meddygol ar sail rota. Os ydych chi'n gwneud cais am rôl, rhaid i chi ymrwymo i weithio nifer penodol o sesiynau'r wythnos. Bydd cyflog yr Archwiliwr Meddygol yn unol â graddfeydd cyflog yr Ymgynghorwyr, ond ni wneir penodiadau yn unol â thelerau ac amodau contract Ymgynghorwyr. 

Gallwch wneud cais i fod yn archwilydd meddygol os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • Meddu ar o leiaf bum mlynedd o brofiad fel ymarferydd meddygol cofrestredig llawn
  • Yn feddyg ar hyn o bryd neu wedi ymddeol yn ddiweddar
  • Yn meddu ar drwydded lawn i ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol

Yn ogystal, bydd angen i chi arddangos y canlynol:

  • Gwybodaeth gyfredol am gyflyrau meddygol ac achosion marwolaeth
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a phrosesau diweddar
  • Gwybodaeth am systemau llywodraethu clinigol cenedlaethol a lleol
  • Sgiliau cyfathrebu cryf sydd yn galluogi cyflawni’r gwasanaeth mewn modd tosturiol, proffesiynol a diffwdan
  • Y gallu i weithio mewn Tîm Amlddisgyblaeth

Mae cael eich penodi i rôl Archwiliwr Meddygol yn amodol ar gwblhau cydrannau gorfodol Rhaglen E-Ddysgu a chwblhau'r Sesiwn Hyfforddi Wyneb yn Wyneb o fewn 3 mis i'r penodiad.

 

Mae modd cael mynediad at y Modiwl E-ddysguyma. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rôl a hyfforddiant yma

 

Dylid cwblhau’r ffurflen i fynegi diddordeb drwy'r ddolen hon a chewch wybod am unrhyw swyddi gwag sydd ar ddod. 

 

Ffurflen Mynegi Diddordeb

 

 

 

 

Swyddog Archwilio Meddygol

Mae'r Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn darparu craffu llawn ar wasanaeth marwolaeth 7 diwrnod yr wythnos, sy'n gofyn am gyflenwi Swyddog Archwilio Meddygol ar sail rota.

Gallwch wneud cais i fod yn Swyddog Archwilio Meddygol os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • Rydych chi wedi'ch addysgu i lefel gradd neu mae gennych chi brofiad ymarferol cyfatebol
  • Mae gennych gymwysterau/sgiliau mewn rheoli gweithredol/proses o ddydd i ddydd gwasanaeth sy'n ymwneud ag ymdrin â chwsmeriaid lle gallai fod gan ddefnyddwyr anghenion na ellir eu rhagweld ac anghenion llawn emosiwn.
  • Mae gennych sgiliau empathi a hunanymwybyddiaeth i ymdrin â theuluoedd mewn profedigaeth a allai fod â rhwystrau i ddeall gwybodaeth oherwydd eu galar neu eu hanabledd.
  • Mae gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.

Yn ogystal, bydd angen i chi arddangos y canlynol:

  • Mae gennych ddealltwriaeth o derminoleg feddygol sy'n galluogi trafodaethau deallus am achosion/amgylchiadau marwolaeth gyda theuluoedd mewn profedigaeth, clinigwyr, crwner a staff y gwasanaeth cofrestru.
  • Mae gennych wybodaeth o'r broses statudol ynglŷn â fframweithiau cyfreithiol ardystio marwolaeth a sut mae'r system archwilio meddygol yn cyd-fynd â sefydliadau cysylltiedig eraill a mentrau'r GIG.
  • Mae gennych y gallu i weithio dan bwysau mawr mewn amgylchedd na ellir ei ragweld, lle mae gofal profedigaeth yn ganolog i ddarparu gwasanaeth.
  • Mae gennych wybodaeth am ddymuniadau/arferion angladd amrywiol grwpiau ffydd i alluogi cydymffurfiad parchus ag amserlenni a gweithdrefnau tynn a phenodol.
  • Rydych chi'n hyddysg mewn cyfrifiadura er mwyn gallu defnyddio meddalwedd TG lluosog ar gyfer cofnodi data adnabyddadwy personol a chynhyrchu gwybodaeth ystadegol ar gyfer gwyliadwriaeth swyddfa'r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol a gwyliadwriaeth Iechyd y Cyhoedd.

Gellir gweld Swydd-ddisgrifiad y Swyddog Archwilio Meddygolyma

 

Mae cael eich penodi i rôl Swyddog Archwilio Meddygol yn amodol ar gwblhau cydrannau gorfodol Rhaglen E-ddysgu a chwblhau'r Sesiwn Hyfforddi Wyneb yn Wyneb o fewn 3 mis i'r penodiad. Rhoddir hyfforddiant ychwanegol unwaith y byddwch yn y swydd i ganiatáu cwblhau'r Portffolio Hyfforddi Swyddogion Archwilio Meddygol. Bydd tâl Swyddog Archwilio Meddygol a thelerau ac amodau ym Mand 5 Agenda ar gyfer Newid. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Swyddogion Archwilio Meddygol a hyfforddiant yma

 

Mae modd cael mynediad at y Modiwl E-ddysguyma.

 

Dylid cwblhau’r ffurflen i fynegi diddordeb drwy'r ddolen hon a chewch wybod am unrhyw swyddi gwag sydd ar ddod. 

 

Ffurflen Mynegi Diddordeb

 

 

 

 

Swyddog Cymorth Gweithrediadau Archwilio Meddygol

Mae'r Swyddog Cymorth Gweithrediadau yn swydd weinyddol sy'n cefnogi craffu ar y gwasanaeth marwolaeth 5 diwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch wneud cais i fod yn Swyddog Cymorth Gweithrediadau os:

  • Oes gennych brofiad o weithio mewn rôl weinyddol/amgylchedd swyddfa
  • Oes gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
  • Oes gennych sgiliau trefnu rhagorol
  • Oes gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd dan bwysau ac i derfynau amser caeth.
  • Oes gennych brofiad o weithio mewn timau amlddisgyblaethol

Mae'r Swyddogion Cymorth Gweithredol yn darparu cymorth gweinyddol a gweithredol ac yn cysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid fel Byrddau Iechyd, Gofal Sylfaenol a'r Crwner.  Darperir hyfforddiant llawn ar ôl i chi ddechrau yn y swydd. Bydd tâl a thelerau ac amodau Swyddog Cymorth Gweithrediadau ar Fand 3 Agenda ar gyfer Newid.

 

Mae Sgiliau Iaith Cymraeg lefelau 1 i 5 yn ddymunol mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg ar gyfer pob rôl.