Neidio i'r prif gynnwy

Rolau o fewn y Gwasanaeth Archwilio Meddygol

Roles within the Medical Examiner Service

Archwilydd Meddygol Arweiniol Cymru: Dr Jason Shannon

Mae'r Archwilydd Meddygol Arweiniol yn cynnig arweinyddiaeth a chyngor i sicrhau bod Gwasanaeth Archwilio Meddygol Cymru yn cael ei sefydlu a'i lywodraethu'n effeithiol, a hefyd yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i Archwilwyr Meddygol a gyflogir yng Nghymru, gan gynnwys darparu llinell atebolrwydd broffesiynol annibynnol iddynt.

Mae'r Archwilydd Meddygol Arweiniol yn cefnogi'r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol, sydd â chylch gwaith yng Nghymru a Lloegr, trwy sicrhau bod deddfwriaeth, arweiniad a safonau perthnasol yn cael eu deall a'u gweithredu'n effeithiol yng Nghymru, a thrwy roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y cynnydd ac am y materion sy'n codi.

 

Archwilwyr Meddygol: Amrywiol

Mae Archwilwyr Meddygol yn feddygon (hŷn fel arfer) sydd wedi'u hyfforddi'n briodol a fydd yn craffu’n annibynnol ar farwolaethau er mwyn sefydlu:

  1. Achos marwolaeth cywir, ac
  2. A yw'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r farwolaeth honno'n rhoi unrhyw achos pryder sy'n gofyn am ymchwiliad pellach. Gall hyn fod gan sefydliad gofal unigol neu gan Wasanaeth y Crwner.

Yng Nghymru, bydd y craffu hwn yn ffurfio Cam 1 y Broses Adolygu Marwolaethau Cyffredinol fel y dangosir isod:

 
 
 
Yn nodweddiadol mae Archwilwyr Meddygol yn feddygon, o ystod o ddisgyblaethau, a gyflogir i ddarparu nifer benodol o sesiynau i'r Gwasanaeth yn hytrach na meddygon y mae eu cyflogaeth gyda'r Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn unig. Y rheswm dros hyn yw bod yr wybodaeth a'r profiad y gallant eu darparu yn aml yn cael eu gwella gan eu cylch gwaith ehangach. Mae Archwilwyr Meddygol fel arfer yn darparu 2 sesiwn yr wythnos i'r Gwasanaeth ond gall hyn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.
 

Swyddog Archwilio Meddygol Arweiniol: Daisy Shale

Mae’r Swyddog Archwilio Meddygol Arweiniol yn darparu cefnogaeth i Archwilydd Meddygol Arweiniol Cymru wrth sefydlu a chynnal Gwasanaeth Archwilio Meddygol o ansawdd uchel.

Fel yr arweinydd proffesiynol ar gyfer Swyddogion Archwilio Meddygol sy'n gweithio yng Nghymru, mae'r Swyddog Archwilio Meddygol Arweiniol yn darparu cynllunio strategol a rheolaeth weithredol Swyddogion Archwilio Meddygol i alluogi'r Gwasanaeth yng Nghymru i weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon.

Mae’r Swyddog Archwilio Meddygol Arweiniol yn gyfrifol am sicrhau ansawdd gwaith Swyddogion Archwilio Meddygol a bydd yn brif ffynhonnell cyngor ac arweiniad ar y Gwasanaeth i bartneriaid allweddol, gan gynnwys Swyddfeydd y Crwner, Swyddfeydd y Gwasanaeth Cofrestru, Gwasanaethau Profedigaeth a thimau/sefydliadau gofal lleol.

 

Swyddogion Archwilio Meddygol: Amrywiol

Mae Swyddogion Archwilio Meddygol yn cefnogi Archwilwyr Meddygol yn eu rôl wrth graffu ar amgylchiadau ac achosion marwolaeth trwy sicrhau bod yr wybodaeth briodol ar gael i'r Archwilydd Meddygol trwy Ffeil Achos unigol.

Mae Ffeil Achos y Swyddog Archwilio Meddygol yn sefydlu amgylchiadau marwolaethau unigol trwy gynnal adolygiad rhagarweiniol o gofnodion meddygol i nodi gwybodaeth glinigol ac amgylchiadol, a dod o hyd i fanylion ychwanegol lle bo angen. Dan awdurdod dirprwyedig gan Archwilydd Meddygol, gall y rhain hefyd gynorthwyo gyda dwy agwedd ar y broses graffu: y drafodaeth gyda'r ymarferydd sy'n mynychu, a'r drafodaeth gyda'r rhai mewn profedigaeth i ganfod a oes ganddynt unrhyw bryderon neu gwestiynau am farwolaeth eu hanwylyd.

Gan fod pob Swyddog Archwilio Meddygol yn lleol, y nhw yw'r pwynt cyswllt lleol a'r ffynhonnell gyngor i berthnasau'r ymadawedig, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a'r Gwasanaethau Crwner a Chofrestru lleol. Yn y rôl hon, maent hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Profedigaeth lleol i sicrhau nad yw'r broses o graffu ar farwolaeth yn achosi unrhyw oedi neu anghyfleustra gormodol i'r rhai mewn profedigaeth.

 

Swyddog Cymorth Gweithrediadau’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol: Amrywiol

Mae swyddogion cymorth Gweithrediadau’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn darparu cymorth hanfodol i'r Archwilydd Meddygol a'r Swyddog Archwilio Meddygol ym mhob swyddfa ar sail Cymru Gyfan.

Mae'r Swyddogion Cymorth Gweithrediadau yn darparu cymorth gweinyddol a gweithredol ac yn cysylltu'n uniongyrchol â rhanddeiliaid megis Byrddau Iechyd, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Crwner i ddarparu gwybodaeth berthnasol a phwysig. Mae’n bosibl mai nhw fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y gwasanaeth a byddant delio â cheisiadau ac yn darparu gwybodaeth o ffynonellau allanol a mewnol.

Maent wedi'u lleoli ym mhob un o'r pedwar safle ledled Cymru ac yn darparu cymorth ysgrifenyddol, trefniadol a gweinyddol effeithlon ac effeithiol i'r gwasanaeth.