Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio i Wasanaeth Archwilio Meddygol Cymru

Working for the Medical Examiner Service for Wales

Dod yn Archwilydd Meddygol

Gallwch wneud cais i fod yn archwilydd meddygol os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • Pum mlynedd o brofiad fel meddyg sydd wedi cofrestru’n llawn
  • Yn feddyg ar hyn o bryd neu wedi ymddeol yn ddiweddar
  • Dal trwydded i ymarfer gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol

Yn ogystal, bydd angen i chi arddangos y canlynol:

  • Gwybodaeth gyfredol am gyflyrau meddygol ac achosion marwolaeth
  • Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a phrosesau diweddar
  • Gwybodaeth am systemau llywodraethu clinigol cenedlaethol a lleol
  • Sgiliau cyfathrebu cryf sydd yn galluogi cyflawni’r gwasanaeth mewn modd tosturiol, proffesiynol a diffwdan
  • Y gallu i weithio mewn Tîm Amlddisgyblaeth

Mae cael eich penodi i rôl Archwilydd Meddygol yn dibynnu ar gwblhau cydrannau gorfodol Rhaglen E-Ddysgu a sesiwn Hyfforddi Wyneb yn Wyneb a gynhelir o dan adain Coleg Brenhinol y Patholegwyr. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y rôl a hyfforddiant yma

Gellir gwneud cais am rôl yr Archwilydd Meddygol ar ôl cwblhau cydran y Rhaglen E-Ddysgu yn unig, gydag unrhyw apwyntiad wedyn yn amodol ar gwblhau'r Sesiwn Hyfforddi Wyneb yn Wyneb o fewn 3 mis i benodi.

 

Gellir cael mynediad i’r Modiwl E-Ddysgu yma.

Mae modiwlau ar-lein pellach ar gael fel rhan o Raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Bydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn craffu’n llawn ar y gwasanaeth marwolaeth yn ystod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener a bydd yn cynnig Gwasanaeth Cyngor Ffôn Archwilydd Meddygol yn unig ar benwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 9am a 6pm. Mae hyn er mwyn caniatáu rhyddhau cyrff yn gynnar lle bo hynny'n briodol, er enghraifft er mwyn bodloni gofynion ffydd benodol ac er mwyn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cyngor proffesiynol.

Wrth ymgeisio am rôl byddwch yn ymrwymo i weithio nifer benodol o sesiynau'r flwyddyn, gyda Chynllun Swydd wythnosol yn cael ei gytuno, a bydd y rhain yn cael eu cadarnhau yn ystod y broses benodi. Bydd tâl Archwilydd Meddygol yn unol â graddfeydd cyflog Ymgynghorwyr, ond ni wneir penodiadau yn unol â Thelerau ac Amodau Contract yr Ymgynghorydd. 

 

Mae Swydd Ddisgrifiad Archwilydd Meddygol ar gael yma.

Mae Telerau ac Amodau Archwilydd Meddygol ar gael yma.

 

Os hoffech drafod y rôl neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â:

Swyddfa Gwasanaethau Archwilydd Meddygol Arweiniol Cymru

4/5 Cwrt Charnwood

Heol Billingsley

Parc Nantgarw

Caerdydd

CF17 7QZ

 

E-bost: medical.examiner@wales.nhs.uk

Ffôn: 07870 404 654

 

Dod yn Swyddog Archwilio Meddygol

Gallwch wneud cais i fod yn Swyddog Archwilio Meddygol os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • Rydych chi wedi'ch addysgu i lefel gradd neu mae gennych chi brofiad ymarferol cyfatebol
  • Mae gennych gymwysterau/sgiliau mewn rheoli gweithredol/proses o ddydd i ddydd gwasanaeth sy'n ymwneud ag ymdrin â chwsmeriaid lle gallai fod gan ddefnyddwyr anghenion na ellir eu rhagweld ac anghenion llawn emosiwn.
  • Mae gennych sgiliau empathi a hunanymwybyddiaeth i ymdrin â theuluoedd mewn profedigaeth a allai fod â rhwystrau i ddeall gwybodaeth oherwydd eu galar neu eu hanabledd.
  • Mae gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Mae gennych ddealltwriaeth o derminoleg feddygol sy'n galluogi trafodaethau deallus am achosion/amgylchiadau marwolaeth gyda theuluoedd mewn profedigaeth, clinigwyr, crwner a staff y gwasanaeth cofrestru.
  • Mae gennych wybodaeth o'r broses statudol ynglŷn â fframweithiau cyfreithiol ardystio marwolaeth a sut mae'r system archwilio meddygol yn cyd-fynd â sefydliadau cysylltiedig eraill a mentrau'r GIG.
  • Mae gennych y gallu i weithio dan bwysau mawr mewn amgylchedd na ellir ei ragweld, lle mae gofal profedigaeth yn ganolog i ddarparu gwasanaeth.
  • Mae gennych wybodaeth am ddymuniadau/arferion angladd amrywiol grwpiau ffydd i alluogi cydymffurfiad parchus ag amserlenni a gweithdrefnau tynn a phenodol.
  • Rydych chi'n hyddysg mewn cyfrifiadura er mwyn gallu defnyddio meddalwedd TG lluosog ar gyfer cofnodi data adnabyddadwy personol a chynhyrchu gwybodaeth ystadegol ar gyfer gwyliadwriaeth swyddfa'r Archwilydd Meddygol Cenedlaethol a gwyliadwriaeth Iechyd y Cyhoedd.

Gellir gweld Swydd Ddisgrifiad y Swyddog Archwilio Meddygol yma

Mae cael eich penodi i rôl Archwilydd Meddygol yn dibynnu ar gwblhau Rhaglen E-Ddysgu a mynychu diwrnod hyfforddi wyneb yn wyneb a gynhelir o dan adain Coleg Brenhinol y Patholegwyr.

Gellir gwneud cais am rôl Swyddog Archwilio Meddygol cyn cwblhau cydran yr hyfforddiant wyneb yn wyneb, ond bydd unrhyw apwyntiad wedyn yn amodol ar gwblhau'r hyfforddiant wyneb yn wyneb o fewn cyfnod amser rhesymol (disgwylir iddo fod yn 3 mis).  Rhoddir hyfforddiant ychwanegol unwaith y byddwch yn y swydd i ganiatáu cwblhau'r Portffolio Hyfforddi Swyddogion Archwilio Meddygol.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Swyddogion Archwilio Meddygol a hyfforddiant yma

 

Gellir cael mynediad i’r Modiwl E-Ddysgu yma.

 

Bydd y Gwasanaeth Archwilio Meddygol yn craffu’n llawn ar y gwasanaeth marwolaeth yn ystod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener a bydd yn cynnig Gwasanaeth Cyngor Ffôn Archwilydd Meddygol yn unig ar benwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 9am a 6pm. Mae hyn er mwyn caniatáu rhyddhau cyrff yn gynnar lle bo hynny'n briodol, er enghraifft er mwyn bodloni gofynion ffydd benodol ac er mwyn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cyngor proffesiynol.

Wrth ymgeisio am rôl, byddwch yn ymrwymo i weithio nifer benodol o oriau'r flwyddyn a chaiff y rhain eu cadarnhau yn ystod y broses benodi. Bydd tâl Swyddog Archwilio Meddygol a thelerau ac amodau ym Mand 5 Agenda ar gyfer Newid. 

 

Os hoffech drafod y rôl neu’r broses ymgeisio, cysylltwch â:

Daisy Shale - Swyddog Archwilio Meddygol Arweiniol Cymru

E-bost: daisy.shale@wales.nhs.uk

Ffôn: 07929188518