Mae Swyddogion Archwilio Meddygol yn rheoli achosion o’r hysbysiad cychwynnol hyd at eu cwblhau, ac maent yn hanfodol ar gyfer gweithrediad effeithiol ac effeithlon y gwasanaeth. Maent yn casglu’r holl wybodaeth berthnasol ac maent yn cwblhau adolygiad rhagarweiniol i ddatblygu ffeil achos sy’n amlinellu amgylchiadau pob marwolaeth fel y gall yr Archwilydd Meddygol graffu’n ffurfiol arni. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt weithio gyda Swyddfa’r Crwner, Cofrestryddion, Gwasanaethau Profedigaeth, Rheolwyr Cwynion, Gwasanaethau Cyfreithiol a Dyfarnwyr Amlosgi.
Mae eu gwaith yn cyfateb i waith ymarferwyr yr adran lawdriniaethau, sy’n cynorthwyo anesthetyddion, nyrsys theatr sy’n cynorthwyo llawfeddygon, nyrsys sy’n cynorthwyo meddygon a swyddogion y Crwner sy’n cynorthwyo’r Crwner.
Gallai’r Swyddogion Archwilio Meddygol gyflawni rhai swyddogaethau’r broses graffu fel y dirprwyir gan Archwilydd Meddygol, sy’n atebol am hyn. Mae swyddogaethau dirprwyedig yn cynnwys trafod achosion posibl marwolaethau gyda’r Ymarferwyr Cymwys fu’n Bresennol a chysylltu â’r rhai mewn profedigaeth cyn cyflwyno’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth.