Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel i bob un o’n cwsmeriaid, nawr ac yn y dyfodol.
Mae ein harolygon cwsmeriaid yn ein galluogi i asesu pa mor dda rydym yn gwneud, ac i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd sydd yn eich barn chi yn rhai y dylid eu gwella. Rydym yn ddiolchgar ichi am ymateb. Dyma gipolwg ar y canlyniadau.
Rydym ni bob tro yn hapus o dderbyn adborth da gan ein cwsmeriaid. Dyma ychydig o enghreifftiau ymhlith nifer:
Judyth Jenkins, Maeth a Dieteteg, Caerdydd a’r Fro (ar ran Grŵp Bwydo Enterig): “Diolch ichi am eich holl waith caled ar Gontract Bwydo Enterig yn y Cartref. O ystyried ble oedden ni 12 mis yn ôl, rydw i’n synnu pa mor hwylus mae wedi mynd. Eich gwaith chi ac arweinyddiaeth eich tîm sydd wedi sicrhau hyn, felly diolch yn fawr iawn. Mae Gwasanaeth Bwydo Enterig yn y Cartref yn hanfodol i bobl fregus ledled Cymru, a does dim rhaid iddyn nhw boeni’n ormodol am y gwasanaeth gofalu yn y cartref gan fod eich tîm chi wedi gweithio mor galed i sicrhau ymarferoldeb meddygol a gwasanaeth hwylus. Mae hyn yn golygu llawer i ni fel gweithwyr proffesiynol yn ein swydd o ddydd i ddydd” (Mawrth 2018).
Lois Lloyd, Caffael Fferyllol a Phrif Fferyllydd Gofal yn y Cartref (Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr): “Diolch yn fawr iawn ichi am eich holl gefnogaeth, fyddwn i ddim wedi goroesi oni bai amdanoch chi”. (Rhagfyr 2017).