Neidio i'r prif gynnwy

Canmol a Chwyno

Os ydych chi’n credu nad oeddem wedi bodloni’ch disgwyliadau ar unrhyw adeg, mae gennym weithdrefn gwynion y gallwch chi ei defnyddio i roi gwybod i ni am unrhyw broblemau.  Byddwn yn gwneud ein gorau glas i unioni’r sefyllfa a byddwn yn dadansoddi’r data am gwynion dros amser er mwyn dysgu sut y gallwn wella’n gwasanaethau ymhellach.

Mae taflen sy’n disgrifio’r proses gwyno ar gael trwy ddilyn y ddolen hon.

Cewch chi drafod eich cwyn ag unrhyw aelod o staff yng Ngwasanaethau Caffael yn uniongyrchol hefyd, os ydych chi’n credu bod hyn yn briodol. Byddwn yn delio â’ch cwyn yn unol â’n gweithdrefn gwynion, ni waeth sut y byddwch yn dewis cysylltu â ni.

Beth i’w wneud nesaf

Byddwn yn cydnabod derbyn eich cwyn cyn pen 24 awr ar ôl ei dderbyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddatrys eich cwyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn yn eich diweddaru ynghylch cynnydd eich cwyn hyd nes ein bod wedi datrys yr holl faterion.

Unwaith y byddwch wedi derbyn ein hymateb terfynol, ac os nad ydych chi’n fodlon ar y canlyniad, gallwch chi ofyn i’ch cwyn gael ei adolygu gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Caffael.  Caiff eich cwyn a phenderfyniadau blaenorol eu hadolygu, i wirio a oedd y penderfyniadau yn deg ac yn rhesymol. Byddwch yn derbyn ymateb cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Os oes pryder gennych sydd naill ai’n debygol o effeithio’n ddifrifol ar wasanaethau, sy’n ymwneud â gwasanaeth nad yw o’r safon ofynnol neu sydd wedi ei gofnodi o’r blaen ond nid oes dim wedi ei wneud i’w ddatrys, gallwch chi roi gwybod am hyn trwy Weithdrefn Gwynion Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru trwy ddilyn y ddolen hon.

Canmoliaeth ac Adborth

Rydym ni bod tro yn hoff o glywed bod ein staff yn gwneud gwaith gwych. Rhowch wybod i ni os ydym wedi rhagori ar eich disgwyliadau, fel bod modd i ni adeiladu ar y profiad hwn a chydnabod y staff hynny sydd wedi darparu gwasanaeth cwsmeriaid arbennig.