Neidio i'r prif gynnwy

Adborth gan Gwsmeriaid

 

Canlyniadau Arolwg Cwsmeriaid 2017-18

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth proffesiynol o ansawdd uchel i bob un o’n cwsmeriaid, nawr ac yn y dyfodol.

Mae ein harolygon cwsmeriaid yn ein galluogi i asesu pa mor dda rydym yn gwneud, ac i fynd i’r afael ag unrhyw feysydd sydd yn eich barn chi yn rhai y dylid eu gwella. Rydym yn ddiolchgar ichi am ymateb. Dyma gipolwg ar y canlyniadau.

 

Y Newyddion Da (lle rhagorom ni ar ein targed o 80%)

  • Mae 96% ohonoch yn credu bod ein staff yn gwrtais ac yn barod i helpu
  • Mae 95% ohonoch yn credu eich bod yn cael eich trin yn deg ac fel cwsmer gwerthfawr
  • Mae 90% ohonoch yn credu bod Gwasanaethau Caffael yn sefydliad proffesiynol o ansawdd uchel.
  • Mae 90% yn credu bod staff Gwasanaethau Caffael yn dangos gwybodaeth ac arbenigedd yn eu maes.
  • Mae 90% yn fodlon yn gyffredinol ar y gwasanaeth mae Gwasanaethau Caffael yn ei ddarparu.

Meysydd i’w Gwella

  • Mae 78% yn fodlon ar gynnwys gwefan Gwasanaethau Caffael.
Ar ôl gwrando ar adborth gan ein cwsmeriaid, mae Gwasanaethau Caffael wrthi’n datblygu gwefan newydd i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.  Rydym yn disgwyl gorffen y gwaith hwn a lansio’r wefan yn Awst 2018.
 

Canmoliaeth

Rydym ni bob tro yn hapus o dderbyn adborth da gan ein cwsmeriaid. Dyma ychydig o enghreifftiau ymhlith nifer:

Judyth Jenkins, Maeth a Dieteteg, Caerdydd a’r Fro (ar ran Grŵp Bwydo Enterig): “Diolch ichi am eich holl waith caled ar Gontract Bwydo Enterig yn y Cartref. O ystyried ble oedden ni 12 mis yn ôl, rydw i’n synnu pa mor hwylus mae wedi mynd. Eich gwaith chi ac arweinyddiaeth eich tîm sydd wedi sicrhau hyn, felly diolch yn fawr iawn.  Mae Gwasanaeth Bwydo Enterig yn y Cartref yn hanfodol i bobl fregus ledled Cymru, a does dim rhaid iddyn nhw boeni’n ormodol am y gwasanaeth gofalu yn y cartref gan fod eich tîm chi wedi gweithio mor galed i sicrhau ymarferoldeb meddygol a gwasanaeth hwylus. Mae hyn yn golygu llawer i ni fel gweithwyr proffesiynol yn ein swydd o ddydd i ddydd” (Mawrth 2018).

Lois Lloyd, Caffael Fferyllol a Phrif Fferyllydd Gofal yn y Cartref (Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr): “Diolch yn fawr iawn ichi am eich holl gefnogaeth, fyddwn i ddim wedi goroesi oni bai amdanoch chi”. (Rhagfyr 2017).