Ymunodd Emma â’r Tîm Cleifion Cymhleth (Llys Gwarchod) fel Paragyfreithiwr yn 2022. Mae Emma yn cynorthwyo cyfreithwyr profiadol ynghylch materion yn ymwneud â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a’r Ddeddf Iechyd Meddwl.
Graddiodd Emma o Brifysgol Caerhirfryn yn 2017 gydag LLB yn y Gyfraith, a Sbaeneg. Ar hyn o bryd mae hi’n cwblhau ei LPC ac LLM Meistr yn y Gyfraith, wrth geisio cymhwyso fel cyfreithiwr.
Cyn hynny bu Emma’n gweithio ym maes maetheg a dieteteg, yn yr Unol Daleithiau a’r DU, cyn symud yn ôl i’w gyrfa gyfreithiol. Mae gan Emma brofiad o weithio ym maes Dieteteg yn amgylchedd ysbytai’r GIG, gan feithrin perthynas ag ystod amrywiol o glinigwyr a chleifion.
Y tu allan i'r gwaith, mae Emma yn frwd dros wirfoddoli i elusennau anifeiliaid.