Neidio i'r prif gynnwy

Gavin Knox

LLB (Anrh) o Brifysgol Dundee MA mewn Moeseg Meddygol a’r Gyfraith o King’s College, Llundain Derbyniwyd yn gyfreithiwr yng Ngogledd Iwerddon yn 2001 a Lloegr a Chymru yn 2009.

Gavin sy’n arwain y Tîm Cleifion Cymhleth, sy’n cynnig cyngor arbenigol yn ymwneud â rhai o sefyllfaoedd cyfreithiol a moesegol mwyaf heriol y maes ymarfer clinigol.

Mae ei arbenigedd yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn adnodd gwerthfawr i Fyrddau Iechyd pan fydd bywyd, rhyddid neu ddiogelwch claf yn y fantol.

Mae’n eiriolwr rheolaidd a phrofiadol yn y Llys Gwarchod, yn cynrychioli Byrddau Iechyd ledled Cymru mewn Apeliadau Colli Rhyddid.

Mae Gavin hefyd yn gyfreithiwr esgeuluster clinigol profiadol, ac mae’n rhoi cyngor ynghylch materion yn ymwneud â chydsyniad, buddion pennaf neu iechyd meddwl.

Mae’n cynghori ar bolisïau Byrddau Iechyd a Chymru Gyfan, ac mae’n darparu hyfforddiant ar faterion yn ymwneud â’i feysydd yn aml.

Aelodaeth


  • Cymdeithas Ymarferwyr y Llys Gwarchod
  • Rhwydwaith Deddf Galluedd Meddyliol/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid Cymru Gyfan
  • Gweithgor y DU sy’n cynnig diwygiadau i Gyfeiriad Ymarfer y Llys Gwarchod 9E yn ymwneud â Thriniaeth Feddygol Ddifrifol

 

Cyswllt

Linkedin: Gweld Proffil