Enillodd Hannah ei gradd LLB yn y Gyfraith o Brifysgol Caerwysg, cyn mynd i Brifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste lle enillodd Ragoriaeth yng Nghwrs Ymarfer y Gyfraith. Bu’n baragyfreithiwr ym maes cyfraith Iechyd a Lles a’r Llys Gwarchod, ac ymgymhwysodd yn gyfreithiwr ym mis Mawrth 2016 gan arbenigo yn y gyfraith sy’n ymwneud â’r henoed.
Mae Hannah yn gyfreithiwr yn y Tîm Cleifion Cymhleth. Gall gynnig cyngor am Alluedd Meddyliol a’r gyfraith ym maes iechyd meddwl, gyda ffocws penodol ar Hawliau Dynol ac Amddifadu o Ryddid. Mae Hannah yn gyfryngwr cymwysedig a gall helpu i ddatrys anghydfodau sy’n codi mewn ymarfer clinigol. Fel eiriolwr hyderus, gall helpu hefyd mewn cwestau cymhleth.