Astudiodd Iliyana y Gyfraith a Chwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ystod ei hamser yn y brifysgol, bu’n gwirfoddoli yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, gan ymdrin ag ystod eang o faterion ymgyfreitha sifil ar sail pro bono.
Ochr yn ochr â’i gwaith yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol USW, cymerodd Iliyana ran mewn cystadlaethau prifysgol megis y Gystadleuaeth Cyfweld â Chleientiaid a gwirfoddoli yn yr Employment Tribunal Litigant in Person Scheme (ELIPS). Y tu allan i’r brifysgol, gwirfoddolodd ar gyfer Cyngor ar Bopeth lle byddai'n cynorthwyo ac yn cefnogi tystion yn y llys. Fe weithiodd hefyd fel paragyfreithiwr Anafiadau Personol mewn practis preifat ochr yn ochr â’i hastudiaethau.
Graddiodd Iliyana gyda Gradd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol De Cymru yn 2020 ac ymunodd a Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant ym mis Medi 2020.
Yn ei hamser hamdden, mae Iliyana yn mwynhau mynd â’i mab i lefydd newydd a chael anturiaethau. Mae hefyd yn mwynhau cadw’n heini ac mae wedi rhedeg yn Hanner Marathon Caerdydd ddwy flynedd yn olynol - mae hi’n gobeithio parhau â’r rhediad hwnnw unwaith y bydd cyfyngiadau Covid wedi mynd heibio!