Rwy'n cynrychioli cleientiaid yn rheolaidd mewn amrywiaeth o achosion cyfreithiol cymhleth, gan gynnwys apeliadau trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid (DoLS) Adran 21A, ceisiadau llesiant Adran 16, ceisiadau Re X, ac achosion sy'n ymwneud â thriniaeth feddygol ddifrifol a chyfraith iechyd meddwl. Rwy'n ymfalchïo fy mod yn hawdd mynd ataf ac yn empathig, a phob amser yn bwriadu sicrhau bod cleientiaid yn teimlo'n wybodus ac yn cael eu cefnogi drwy'r hyn a all fod yn broses gyfreithiol sensitif a heriol yn aml.
Rwy'n Gyfreithiwr yn y Tîm Cleifion Cymhleth (Llys Gwarchod) yn y Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, ar ôl ymuno â'r tîm ym mis Tachwedd 2023 yn fuan ar ôl i mi gymhwyso.
Cefais radd yn y Gyfraith (LLB) o Brifysgol Bangor a chyflawni Rhagoriaeth yn y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) wrth gwblhau gradd Meistr yn y Gyfraith (LLM) ym Mhrifysgol y Gyfraith hefyd.
Cyn ymuno â ‘r adran Cyfreithiol a Risg, dechreuais fy ngyrfa gyfreithiol mewn practis preifat, gan arbenigo mewn materion llesiant y Llys Gwarchod, Iechyd Meddwl, a Chyfraith Teulu. Mae fy ngwaith nawr yn canolbwyntio ar gynghori Byrddau Iechyd ledled Cymru ar faterion cyfreithiol a all godi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a Deddf Iechyd Meddwl.