Neidio i'r prif gynnwy

Matthew Curzon

Ymunodd Matt â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Awst 2017 fel paragyfreithiwr yn y tîm Esgeulustod Meddygol. Cyn hynny bu’n gweithio mewn ymarfer preifat gan ymdrin â hawliadau Anafiadau Personol a Llogi Credyd.

Yn wreiddiol o Nottingham, symudodd Matt i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd lle enillodd ei radd yn y Gyfraith a chwblhau Cwrs Ymarfer y Gyfraith.

Yn ei amser hamdden, mae Matt wrth ei fodd â phob math o chwaraeon, ac mae’n chwaraewr criced brwd sydd hefyd yn hyfforddwr cymwys lefel 2 ar gyfer Bwrdd Criced Lloegr. Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol roedd Matt yn hyfforddwr gyda Criced Morgannwg yn eu Canolfan Criced Cenedlaethol, ac yn aelod pwyllgor a chwaraewr rheolaidd yn ei glwb lleol.  Ar wahân i chwaraeon, mae Matt wrth ei fodd yn mynd i’r theatr ac mae’n dweud mai Jersey Boys a Billy Elliot yw ei ffefrynnau.

Cyswllt


E-bost: Matthew.Curzon@wales.nhs.uk