Neidio i'r prif gynnwy

Robyn Kelly

Robyn Kelly

Ar hyn o bryd, mae Robyn yn astudio i ennill gradd LLB (Anrhydedd) mewn Ymarfer Cyfreithiol (Esemptio) ym Mhrifysgol De Cymru fel rhan o’r cynllun Network75.

Cyn hynny, enillodd radd mewn Chwaraeon yn 2018, a dathlodd drwy deithio’r Unol Daleithiau, gan ddechrau yn Efrog Newydd a gorffen yn Los Angeles.

Yn ei hamser hamdden, mae Robyn yn mwynhau cadw’n heini drwy fynd i’r gampfa, gwneud ioga a rhedeg. Bu’n athrawes ddawns am gyfnod ac mae’n hyfforddi tîm rygbi i ferched ar hyn o bryd. Mae hefyd yn mwynhau teithio, darllen, gwylio ffilmiau a mynd i gyngherddau.