Neidio i'r prif gynnwy

Elizabeth Dawson

Mae Liz wedi gweithio yn y GIG ers 1997, gan ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol Iechyd Cymru ym 1999 i gwblhau ei chontract hyfforddi.  Derbyniwyd Liz yn Gyfreithiwr yn 2001. Mae hi wedi gweithio gyda nifer o Gyrff Iechyd yn y cyfnod hwn ac ers mis Gorffennaf 2016 yn bennaf i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Thîm WAST. Yn 2022 tyfodd y portffolio hwn i gynnwys Caerdydd a’r Fro, Felindre ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd.

Mae Liz yn mwynhau pobi, dosbarthiadau ffitrwydd a hyfforddiant codi pwysau ac er nad yw erioed wedi reidio beic modur, mae'n hoff iawn o MotoGP. Mae gan Liz fab yn ei arddegau i'w chadw ar flaenau ei thraed. Ychydig cyn y cyfyngiadau symud daeth ci bach cockapoo fflwfflyd o’r enw Murphy i ymuno â’r teulu a bellach does dim byd gwell ganddi na mynd allan yn yr awyr agored gyda’r ci.