Neidio i'r prif gynnwy

Jane Squire

Daeth Jane yn Gyfreithiwr cymwys yn 2000 a chafodd ei LLB (Anrh) ym Mhrifysgol Abertawe.

Dechreuodd Jane ei gyrfa yn arbenigo ym maes hawliadau anafiadau personol. Enillodd brofiad eang yn y maes trwy weithio i nifer o gyfreithwyr panel i Yswirwyr Treuliau Cyfreithiol wedi’u lleoli yn ne Cymru, lle'r oedd ganddi rôl yn goruchwylio. Yna penderfynodd amddiffyn hawliadau anafiadau personol, gan gynrychioli cleientiaid yswirio mawr. Gweithiodd i gwmni Kings Legal, ac yn ystod ei chyfnod yno, daeth yn Arweinydd Tîm. Ar ôl dychwelyd o hoe fer i’w gyrfa i deithio’r byd, gweithiodd i Bevan Brittan, i ymdrin â hawliadau esgeuluster clinigol. Ymunodd Jane â’r gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2014, lle mae hi bellach yn rheoli hawliadau esgeuluster clinigol aml-barti, gwerth uchel a chymhleth.

Yn ei hamser rhydd, mae Jane yn hoff o yoga a cherdded.