Ar hyn o bryd, mae Alex yn gweithio fel Gweithredwr Cyfreithiol yn nhîm Cwm Taf Morgannwg, ar ôl cymhwyso fel Gweithredwr Cyfreithiol ym mis Hydref 2018. Symudodd Alex o’r tîm Anafiadau Personol, lle bu’n baragyfreithiwr am bedair blynedd.
Mae gan Alex lwyth gwaith amrywiol, lle mae’n cynghori’r Bwrdd Iechyd ar oedi mewn diagnosis, diagnosis anghywir ac anafiadau wrth roi genedigaeth.
Yn ei hamser rhydd, mae Alex yn mwynhau pobi, mynd â’i chi, Dexter, am dro ac, yn bennaf oll, mae’n mwynhau treulio amser gyda’i merch annwyl. Er bod Alex yn ofni uchder, cwblhaodd naid parasiwt yn 2016, gan godi swm sylweddol o arian at elusen. Oherwydd hyn, bu yn y 10% a gododd fwyaf o arian ar Just Giving yn ystod y mis hwnnw. Mae’n awyddus i gwblhau ail naid er mwyn dathlu ei phen-blwydd yn 30 mlwydd oed.
Mae Alex wedi gwirfoddoli yng Ngharchar Abertawe fel Hwylusydd Cyfiawnder Adferol, lle dysgodd ei sgiliau cyfryngu.