Neidio i'r prif gynnwy

Alun Rees

Ymunodd Alun â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ym mis Awst 2018 fel paragyfreithiwr yn yr adran Esgeulustod Clinigol ar ôl gweithio mewn practis preifat am y ddwy flynedd flaenorol.

Enillodd Alun ei Radd LLB yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd yn 2016 a daeth yn Weithredwr Cyfreithiol Siartredig ym mis Tachwedd 2021.

Yn ei amser hamdden, mae Alun yn hoff o gymryd rhan mewn chwaraeon ac mae diddordeb arbennig ganddo mewn rygbi. Ar hyn o bryd mae'n chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd yn Uwch Gynghrair Principality Cymru. Mae hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl.