Neidio i'r prif gynnwy

Kara Bowen

Cafodd Kara ei derbyn fel Cyfreithiwr yn 2013.

Astudiodd Kara’r Gwyddorau Rheoli ym Mhrifysgol Warwick, lle dilynodd nifer o fodiwlau yn ymwneud â’r Gyfraith, a sylweddoli bod ganddi ddiddordeb yn y pwnc. Yna, cwblhaodd ei Diploma Graddedig yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, cyn ymgymryd â’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ar ôl gorffen ei hastudiaethau academaidd, gweithiodd Kara i gwmni hawlio preifat yng Nghaerdydd, lle cwblhaodd ei chytundeb hyfforddi, gan ymgymryd â seddi ym meysydd esgeuluster clinigol, Anafiadau Personol ac Eiddo Masnachol. Cymhwysodd Kara i’r Adran Esgeuluster Clinigol, sef y maes y bu hi’n canolbwyntio arno. Yna, penderfynodd ddefnyddio ei sgiliau ym maes y diffynyddion, gan ymuno â’r Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ar ddechrau 2014, o fewn yr adran Esgeuluster Clinigol. Mae hi’n arbenigo mewn cynrychioli Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd mewn Cwestau, gan roi cymorth ar faterion o fewn ar Drefniadau’r GIG ynghylch Lleisio Pryder, Cwynion ac Unioni yn ôl Rheoliadau Cymru 2011, a thrafod telerau costau. 

Yn ei hamser hamdden, mae Kara’n mwynhau chwarae’r piano, gwrando ar gerddoriaeth fyw a mynd am dro gyda’i chi.

Hefyd, mae Kara wedi cofrestru ar gwrs dysgu Cymraeg trwy’r adran Gyfreithiol a Risg, a sefydlwyd ym mis Medi 2015.