Neidio i'r prif gynnwy

Abby-Lee Rees

Mae Abby yn Baragyfreithwraig yn yr adran Esgeulustod Clinigol. Llwyddodd i ennill ei gradd Meistr yn y Gyfraith gan gynnwys y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym mis Mehefin 2018. Yn ystod yr amser hwn, cymerodd ran yng Nghlinig Gyfreithiol Pro Bono y Brifysgol gan ddarparu cymorth i unigolion ar faterion Cyfraith Teulu.

Cyn hyn, bu Abby yn gweithio yn DAC Beachcroft yn delio â hawliadau modur cyn-ymgyfreitha. Mae hi'n gobeithio cael contract hyfforddi yn y dyfodol a chymhwyso fel cyfreithiwr.

Yn ei hamser hamdden mae Abby yn mwynhau rhoi cynnig ar weithgareddau newydd gyda'i phartner a byddai wrth ei bodd yn gwneud awyrblymio. Mae hi hefyd yn mwynhau gweld rhai o'i hoff artistiaid yn perfformio'n fyw.