Neidio i'r prif gynnwy

Anne Sparkes

Daeth Anne yn Gyfreithiwr cymwys yn 1998.

Cafodd Anne ei gradd LLB yn y Gyfraith (Anrh) yn 1995 cyn mynd ymlaen i gwblhau’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn 1996. Gwnaeth Anne ei chytundeb hyfforddi yn y Swyddfa Gymreig, ac yna gweithiodd i Wasanaethau Cyfreithiol y Llywodraeth. Yn 1998, dechreuodd weithio yn yr hyn a elwir erbyn hyn yn wasanaethau Cyfreithiol a Risg, fel Cyfreithiwr Esgeuluster Clinigol, yn ymdrin ag ystod eang o hawliadau, gan gynnwys rhai gwerth uchel yn ymwneud â pharlys yr ymennydd a sawl trawma, ynghyd â hawliadau mewn arbenigeddau fel orthopaedeg, llawdriniaeth, offthalmeg, haematoleg a meddygaeth gyffredinol. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn y gyfraith yn ymwneud â chydsyniad. Penodwyd Anne yn arweinydd tîm ar gyfer tîm Hywel Dda yn 2016. Yn ei hamser rhydd, mae Anne yn mwynhau rhedeg a threulio amser gyda’i thri o blant.