Neidio i'r prif gynnwy

Owen Fear

Daeth Owen yn Gyfreithiwr cymwys yn 2014.

Derbyniodd radd yn Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn cwblhau’r Diploma Cyffredinol yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Morgannwg a’r Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gweithiodd Owen mewn sawl rôl Para-gyfreithiol cyn sicrhau ei gytundeb hyfforddi yn yr adran Gyfreithiol a Risg. Bellach, mae’n rhan o’r tîm Esgeuluster Clinigol, lle, yn ogystal â rheoli hawliadau, mae’n rhoi cyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys Cydymffurfio, TG, Diogelu Data, Rhyddid Gwybodaeth a Gofal Iechyd Cyffredinol.

Yn ei amser hamdden, mae Owen yn mwynhau seiclo. Hefyd, ar hyn o bryd, mae’n dysgu Cymraeg, fel rhan o gwrs ym Mhrifysgol Morgannwg.