Neidio i'r prif gynnwy

Amy Bartlett

Ar hyn o bryd mae Amy yn astudio’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol De Cymru tra'i bod yn gweithio i’r tîm Anafiadau Personol i ennill profiad yn ystod ei gradd. Mae’n gwneud hyn trwy ddilyn cynllun o'r enw Network 75 sy'n helpu myfyrwyr i ennill sgiliau seiliedig ar waith ynghyd â'u gradd.

Y tu allan i'r brifysgol mae Amy yn angerddol iawn dros gerddoriaeth ac mae’n chwarae’r gitâr, y bas a’r drymiau. Mae hi hefyd yn mwynhau mynychu gigs byw gyda’i ffrindiau a’i theulu.