Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod â'r Tîm - Tîm Aneurin Bevan

Mae tîm Aneurin Bevan yn rhan o adran esgeulustod clinigol Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.  Alison Walcot sy’n arwain y tîm ac fe'i cefnogir gan dîm o uwch gyfreithwyr a chyfieithwyr iau, sy'n cynnwys Gareth Rees, Charlotte Morgan, Ross Flay a Lucy Clarke. Yn ogystal â'r cyfreithwyr, mae gan y tîm ddau baragyfreithiwr, Robert Hoddy a Robyn Kelly. Yr aelod olaf o'r tîm, ond sydd hefyd yn aelod pwysig iawn ohono, yw ein hysgrifennydd tîm, Mandy Jones, y person sy'n gwneud i bopeth ddigwydd.

Mae'r tîm yn gweithredu ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n cwmpasu ardal ddaearyddol Gwent. Mae’r tîm yn delio â llwyth o achosion amrywiol, sef achosion gwerth uchel a chymhleth, o anafiadau i'r ymennydd, er enghraifft, i achosion gwerth is megis toriadau a gollwyd.  Mae'r tîm yn gweithredu ar ran y Bwrdd Iechyd mewn perthynas â rhai o'i gwestau anoddach ac mae'n cynghori ar sail ad hoc ynghylch eraill. Mae'r tîm hefyd yn rhoi cyngor i'r Bwrdd Iechyd ar rai o'i achosion Gweithio i Wella mwyaf cymhleth.  Roedd Alison yn ddeintydd o’r blaen ac felly mae'n delio â llawer o'r hawliadau deintyddol ar gyfer pob un o'r Byrddau Iechyd yng Nghymru.

Mae tîm Aneurin Bevan hefyd yn gweithredu fel Tîm Costau Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Mae'r tîm yn cynghori Byrddau Iechyd ar rai o'r materion costau anos sy'n cael eu trosglwyddo'n aml i Alison, neu i aelod arall o'r tîm gan gyfreithwyr eraill yn y swyddfa. Mae'r tîm hefyd yn defnyddio eu sgiliau a'u dealltwriaeth i ddarparu cymorth gydag ymholiadau costau cyffredinol o fewn Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg ac i ddarparu hyfforddiant mewnol a Dogfennau Cyfarwyddyd ar gyfer rhai o'r aelodau staff iau. Mae gwybodaeth ac arbenigedd y tîm costau yn ased gwerthfawr i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg. Cydnabuwyd hyn pan ddyfarnwyd ail wobr i'r tîm yng Ngwobrau Cymryd Cyfrifoldeb y Bartneriaeth Cydwasanaethau yn 2017.

Yn ogystal â darparu cyngor cyfreithiol, mae'r tîm yn aml yn ymgysylltu â'u cleientiaid drwy ddarparu darlithoedd cyfreithiol a sesiynau hyfforddi i aelodau'r proffesiwn meddygol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd, yn ogystal ag i reolwyr gwasanaethau cyfreithiol o Fyrddau Iechyd Cymru fel rhan o ddiwrnodau datblygu a diwrnodau hyfforddi i gleientiaid. Mae'r adborth o'r sesiynau hyn bob amser wedi bod yn gadarnhaol iawn a'r tîm yn aml yn cael eu gwahodd i ailadrodd sesiynau o ddarlithoedd llwyddiannus.

Mae Alison wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan a'i ffurfiau blaenorol ers 1996 (cyn i Robyn gael ei eni!) ac mae Gareth a Charlotte hefyd wedi gweithredu ar ran y Bwrdd ers iddynt gymhwyso fel cyfreithwyr. Hyfforddodd Gareth, Charlotte a Ross gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a gadawodd Ross am gyfnod byr i weithio i gwmni diffynnydd yn Lloegr ar ôl cymhwyso, cyn dychwelyd ym mis Gorffennaf 2016. Ymunodd Lucy â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2017 ar ôl cwblhau ei chontract hyfforddi gyda chwmni hawliwr. Roedd Robert yn baragyfreithiwr gyda chwmni cyfreithwyr hawlwyr yng Nghaerdydd yn ymgymryd â gwaith esgeulustod clinigol cyn iddo ymuno â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn 2018. Ymunodd Robyn â ni yn 2018 hefyd ac mae'n fyfyriwr paragyfreithiol sy’n treulio dau ddiwrnod yr wythnos yn y brifysgol yn astudio ar gyfer ei gradd yn y gyfraith a thri diwrnod yr wythnos gyda Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Ymunodd Mandy â'r tîm yn 2016 ac mae wedi rhoi cefnogaeth a chymorth gwerthfawr i'r tîm byth ers hynny!  

Nid dim ond cyfreithwyr diflas yw tîm Aneurin Bevan. Y tu allan i'r gwaith mae gan aelodau'r tîm lawer o ddiddordebau. Mae Alison yn mwynhau dringo copaon De Cymru ac mae’n tyfu llysiau yn ei gardd. Mae Gareth yn golffiwr brwdfrydig ond gwael, sy'n mwynhau gwylio llawer o chwaraeon ac mae'n hoffi darllen am hanes yn ei amser hamdden. Mae Charlotte yn rhedwr brwd ac mae'n mwynhau mynd i ffwrdd i ddarganfod dinasoedd newydd. Mae Ross yn gefnogwr pêl-droed Dinas Abertawe brwd er mawr siom i lawer o'i gydweithwyr yng Nghaerdydd... Mae Lucy yn hoffi pobi a nofio ac mae'n mwynhau teithio. Treuliodd amser yn archwilio De Ddwyrain Asia yn ddiweddar. Mae Robert hefyd yn deithiwr brwd a threuliodd flwyddyn yn gweithio yng Ngorllewin Affrica. Mae hefyd yn mwynhau darllen, ffilmiau a choginio.  Mae Robyn yn dilyn tuedd y tîm o ran y byg teithio ond mae hefyd yn hoffi darllen, gwylio ffilmiau a mynd i gyngherddau. Mae hi hefyd yn hyfforddi tîm rygbi i ferched. Yn olaf, yn ystod amser sbâr Mandy mae hi'n helpu ei gŵr i redeg clwb jiwdo, mae'n mwynhau cerdded ei dau fleiddgi ac mae hefyd yn bobydd rhagorol, fel y bydd aelodau'r tîm yn cytuno.

Mae Tîm Aneurin Bevan yn dîm agored a hawdd mynd ato, sy'n hapus i ddelio ag unrhyw ymholiadau yn y dyfodol gan ein cleientiaid.