Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod a'r tîm - Y Tîm Cyflogaeth

 

Mewn cyhoeddiad misol newydd, byddwn yn eich cyflwyno i’n timau yma yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg.

Yn gyntaf, ac yn ffres o'u llwyddiant yn y categori 'Gwrando a Dysgu' o Wobrau Cydnabyddiaeth Staff PCGC, mae'r Tîm Cyflogaeth.

Employment teamY Tîm Cyflogaeth

Dros y chwe blynedd ddiwethaf mae ein tîm wedi tyfu o dri chyfreithiwr i wyth cyfreithiwr ac un paragyfreithiwr. Mae ysgrifennydd tîm a chyfreithiwr dan hyfforddiant hefyd yn ein cefnogi.

Ein gwaith ni ydy cefnogi timau Adnoddau Dynol gyda materion cyflogaeth ledled GIG Cymru.  Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor dros y ffôn, amddiffyn hawliadau yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, rhoi hyfforddiant i gleientiaid a dylanwadu ar bolisïau Cymru Gyfan. Rydym hefyd yn dadansoddi tueddiadau a themâu yn yr ymholiadau a hawliadau yr ydym yn delio â hwy, ac rydym wedyn yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu hyfforddiant perthnasol sy’n canolbwyntio ar y cleient.

Mae gennym dîm rhagorol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y GIG a’r tu allan iddo.  Roedd Daniela, Sioned a Chris yn gweithio gyda’i gilydd mewn cwmni masnachol yng Nghaerdydd yn rhoi cyngor i’r GIG, cyn ymuno â’r tîm mewnol. Ymunodd Gemma â ni y llynedd o gwmni masnachol rhanbarthol ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn cynghori cleientiaid yn NHS England.  Mae Adam wedi gweithio yn y sector preifat yn Llundain ac i awdurdod lleol yn Lloegr, a chyn iddo ymuno â’r tîm magodd arbenigedd penodol mewn cynghori’r sector addysg.  Mae gan Clare a Peter ill dau brofiad helaeth o roi cyngor ar gyfraith cyflogaeth yn y sector preifat.  Treuliodd ein haelod o staff diweddaraf, Lorrelee, nifer o flynyddoedd ar ôl ymgymhwyso yn rhoi cyngor ar gyfraith cyflogaeth i gwmni yswiriant blaenllaw, cyn cymryd swydd fewnol yn NHS England.  Ymunodd Sammie â ni dair blynedd yn ôl ac mae ar fin ymgymhwyso’n Weithredwr Cyfreithiol Siartredig.

Mae llawer o bethau gwahanol yn mynd â’n bryd pan nad ydym yn y gwaith. Mae Sioned yn chwarae pêl-rwyd yng Nghynghrair Caerdydd a’r Cylch, ac mae’n asesydd i CILEX. Mae Clare yn chwarae’r obo mewn cerddorfa ac mae Adam, ac yntau wedi astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn chwarae’r tiwba. Gan barhau â’r thema gerddorol, mae Daniela yn canu mewn band. Mae Daniela hefyd yn cynrychioli Cymru ar gyfer Cymdeithas y Cyfreithwyr Cyflogaeth. Mae Peter yn hyfforddi tîm pêl-droed ieuenctid lleol. Mae Lorrelee yn hoff iawn o ferlota ac mae’n mwynhau mynd i’r theatr. Mae Sammie yn mwynhau teithio ac mae wedi bod yn dysgu Eidaleg eleni.  Mae Chris yn dwli ar opera ac mae’n casglu celf.

Rydym yn dîm agos iawn ac rydym oll yn cydweithio er mwyn darparu gwasanaeth gwych i’n cleientiaid. Mae wedi bod yn brysur iawn i’r tîm eleni gan fod nifer yr hawliadau yn y Tribiwnlys Cyflogaeth wedi cynyddu’n aruthrol, ac rydym wedi llwyddo i sicrhau canlyniadau rhagorol i’n cleientiaid.

Er mwyn dathlu ein gwaith tîm, rydym wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr yng Ngwobrau Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Bydd y seremoni hon yn cael ei chynnal ym mis Rhagfyr. 

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os ydych chi am drafod unrhyw ymholiadau cyfraith cyflogaeth, neu os ydych chi am drefnu hyfforddiant i’ch tîm. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.