Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi penodiad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru PCGC

 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Mark Harris wedi'i benodi i rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru PCGC.

Mae’n rôl eang a phwysig a bydd Mark yn gyfrifol am arwain, rheoli a pherfformiad yr is-adran. Bydd hyn yn golygu darparu gwasanaethau cyfreithiol a llywodraethu effeithiol, cefnogi PCGC, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru, yn ogystal â darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ar faterion o bwysigrwydd strategol.

Ymunodd Mark â Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg gyntaf ym 1999 ar ôl gweithio mewn practis preifat o'r blaen, gan ennill graddau israddedig ac ôl-raddedig yn y Gyfraith a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Rheolaeth y Gwasanaeth Iechyd gan Brifysgol Caerdydd. Mae wedi rhoi cyngor arbenigol ar ystod eang o faterion cyfreithiol y mae sefydliadau GIG Cymru wedi'u hwynebu, gan gynghori ar filoedd o faterion o'r fath dros 21 mlynedd. Hefyd, mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn hawliadau esgeulustod clinigol ac anghydfodau ynghylch cyllido iechyd.

Cyn hyn, mae Mark wedi arwain tîm Gwasanaethau Cyfreithiol Corfforaethol Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg, gan arwain llawer o weithgareddau corfforaethol yr is-adran. Roedd yn allweddol wrth weithredu'r Cynllun ar gyfer Indemniad Ymarfer Meddygol Cyffredinol yng Nghymru ac wrth benodi Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fel gweithredwr y Cynllun.

Ar ôl cadarnhau ei benodiad, dywedodd Mark;

“Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg a Gwasanaethau Cronfa Risg Cymru. Byddaf yn ceisio ymgorffori diwylliant o wella ansawdd a pherfformiad parhaus ar draws ein gwasanaeth. Byddaf yn parhau i hybu ac adeiladu ar ein henw da y gweithiwn yn galed amdano fel sefydliad blaengar, ymatebol ac arloesol, wrth hyrwyddo gweledigaeth, gwerthoedd craidd a blaenoriaethau strategol PCGC.

Gan weithio’n agos gyda’n holl gydweithwyr yn ein timau a thrwy ymgynghori â rhanddeiliaid, byddaf yn sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaethau cydlynol sy’n werth da am arian, tra’n cadw gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid wrth wraidd ein gwaith a chynnal y safonau sy’n ofynnol gennym ni fel aelodau rheoledig o’r proffesiwn cyfreithiol.”