Neidio i'r prif gynnwy

Cynrychiolaeth Cyfreithiol a Risg yng Nghynhadledd Lexcel

Lexcel Conference 2Mae tîm Lexcel, sy'n gyfrifol am gydlynu a helpu Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg i gynnal ein hachrediad blynyddol yn y Lexcel Legal Practice Quality Mark, wedi mynychu Cynhadledd Cymdeithas Cyfreithwyr ym mis Mehefin. Mae'r gynhadledd yn cynnig cyngor ymarferol gan arbenigwyr o fewn y sector cyfreithiol i gynrychiolwyr ar sut mae uchafu gwerth eu hachrediad.
 
Dirprwyodd ein Rheolwr Cymorth Busnes Lowenna Taylor ar ran ein Cyfarwyddwr Anne-Louise Ferguson a chymerodd ran fel siaradwr gwadd yn y drafodaeth panel “sut i wneud i Lexcel weithio dros eich busnes”. Rhoddodd Lowenna drosolwg o sut mae Lexcel yn gweithio i ni yn GIG Cymru a rhoddodd gyngor ac enghreifftiau ymarferol o sut y gall yr achrediad fod yn ddefnyddiol i dimau mewnol a sut y gall pob cwmni ddefnyddio'r safon i helpu gyda thwf a newid sefydliadol.
 
Lexcel conference 3Roedd y sesiynau panel eraill yn cynnwys pynciau llosg ym maes rheoli ymarfer, sut i osgoi achosion o ddiffyg cydymffurfio dro ar ôl tro a’r gwersi a ddysgwyd o Lexcel 6.1.
 
Bu’r gynhadledd yn blatfform ardderchog wrth arddangos y gwaith gwych a gyflawnwir gan Wasanaethau Cyfreithiol a Risg a bu’n gyfle gwych i rwydweithio â chwmnïau eraill a thimau mewnol ledled Cymru a Lloegr.

 

Diolch i Jam Pond Photography a'r Gymdeithas Cyfreithwyr am y lluniau.