Ydych chi'n gyfreithiwr esgeuluster clinigol/anafiadau personol/ymchwiliadau cyhoeddus sy'n chwilio am newid?
Ydych chi ar ddechrau eich gyrfa ac yn ystyried y meysydd diddorol hyn o'r gyfraith?
Hoffech chi weithio i'r GIG a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol?
Mae gennym nifer o swyddi gwag yn codi o'r lefel uwch iawn, sy’n canolbwyntio ar hawliadau gwerth miliynau o bunnoedd, i swyddi paragyfreithiol ar lefel mynediad.
Tîm cyfreithiol mewnol GIG Cymru sy'n cynrychioli GIG Cymru ym mron pob hawliad esgeuluster clinigol a ddygir yn ei erbyn.
Dros 60 o gyfreithwyr, gweithredwyr cyfreithiol a pharagyfreithwyr/hyfforddeion esgeuluster clinigol penodedig.
Llwythi gwaith amrywiol - hawliadau esgeuluster clinigol, gwaith ymchwiliadau cyhoeddus, cyngor ar gyfraith gofal iechyd, cwestau.
Tîm agos, cryf a chefnogol.
Croesawu gweithio ystwyth/gweithio gartref/gweithio hyblyg.
Pecyn tâl rhagorol gan gynnwys pensiwn y GIG a hawl hael i wyliau.
Os yw hyn o ddiddordeb i chi, dewch i'n Digwyddiad Arddangos ar y 6ed Medi am 6pm i gael gwybod sut brofiad yw gweithio i ni, beth rydym yn ei wneud, y cyfleoedd datblygu, y cyflog a'r buddion eraill sydd ar gael ac i gwrdd â rhai aelodau’r tîm. Cadwch eich lle am ddim heddiw ar ein tudalen Eventbrite.
Os nad ydych yn gallu dod ond yr hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah.Watt@wales.nhs.uk am sgwrs anffurfiol.