Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn Croesawu Myfyrwyr Rhwydwaith75 Newydd

Gwasanaethau
Cyfreithiol a Risg Croeo i Myfyrwyr Rhwydwaith75 Newydd

Yn ddiweddar, rydym wedi croesawu ein myfyrwyr Rhwydwaith75 newydd sef Annie Gauci, Elin Macken ac Ellie Tarr. Darllenwch ymlaen i ddarganfod rhagor am ein myfyrwyr newydd a pham maent wedi dewis llwybr Rhwydwaith75 er mwyn cymhwyso:

“Annie Gauci ydw i, ac rwy’n rhan o gwrs Rhwydwaith75. Rwyf wedi mwynhau astudio’r gyfraith yn fawr ers imi benderfynu ei ddewis ar gyfer Safon Uwch. Rwyf wastad wedi bod â diddordeb yn y system gyfreithiol ac rwyf wastad wedi mwynhau astudio’r ymagwedd droseddol a sifil ar y gyfraith.  Rwy’n gweithio yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg ynghyd ag astudio LLB Ymarfer Cyfreithiol ym Mhrifysgol De Cymru. Rwy’n rhan o’r tîm Hawliadau Anafiadau Personol yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Rwyf wedi dewis y cwrs penodol hwn gan ei fod yn fy ngalluogi i ennill gradd yn y gyfraith ynghyd â pharatoi ar gyfer yr arholiad SQE, ac mae’n rhoi profiad amhrisiadwy imi ar sut beth yw cael gyrfa mewn cwmni cyfreithiol mewn gwirionedd. Mae hefyd yn fy ngalluogi i wneud cysylltiadau gwych a chymryd rhan mewn profiadau rhwydweithio. Rwy’n mwynhau fy rôl yn arbennig gan ei bod yn golygu fy mod yn gallu cymhwyso unrhyw wybodaeth academaidd sydd gennyf i rôl ymarferol. Mae’r profiad y gallaf ei ennill yn fy lleoliad yn anhygoel. Mae’n rhoi nifer o bethau mewn persbectif ac mae’n golygu fy mod yn deall mwy am yr hyn rwy’n dysgu amdano yn fy narlithoedd. Mae cynllun Rhwydwaith75 yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n bwriadu astudio ochr yn ochr â gweithio. Mae’n golygu y gallwch ennill profiad, gweithio, a graddio mewn 5 mlynedd heb ddyled myfyriwr!”

“Helo! Fy enw i yw Elin ac rwyf yn fy mlwyddyn gyntaf yma yn PCGC ar hyn o bryd, a hynny fel myfyriwr y Gyfraith gyda Rhwydwaith75. Rwy’n 19 mlwydd oed ac rwyf wedi byw yng Nghaerdydd erioed. Dewisais yrfa yn y gyfraith gan fy mod wastad wedi bod y math o berson sy’n hoffi gwneud gwahaniaeth a brwydro dros yr hyn sy’n iawn. Rwy’n neilltuo llawer o fy amser i bobl eraill, fel fy nheulu a fy ffrindiau. Y rheswm y dewisais lwybr Rhwydwaith75 dros radd lawn-amser arferol oedd y ffaith fy mod yn ddysgwr ac yn weithiwr brwd iawn. Rwy’n hoffi mynd amdani a chymryd rhan gymaint ag y gallaf ac roedd gallu gweithio mewn swydd sy’n cyd-fynd yn berffaith â’m hastudiaethau yn benderfyniad hawdd! Rwy’n dwlu ar weithio yn PCGC ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau ar fy nhaith i ddod yn gyfreithiwr yma, yn ogystal â chwrdd â gweddill y tîm hyfryd!”

“Helo, Ellie ydw i ac rwy’n un o fyfyrwyr Rhwydwaith75 ac yn gweithio ym maes Esgeuluster Clinigol, yn rhan o Dîm Cleientiaid 1. Rwy’n mwynhau gweithio yma yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg PCGC ac rwyf wedi cael cymaint o gymorth drwy gydol y 2 fis diwethaf. Roedd gen i ddiddordeb yn y gyfraith yn gyntaf pan oeddwn yn rhan o weithdy’r gyfraith yn fy ysgol. Yna, arweiniodd fy niddordeb yn y gyfraith at astudio’r pwnc ar gyfer Safon Uwch, a nawr at ennill gradd yn y gyfraith, sy’n anhygoel! Rhwydwaith75 oedd fy ffordd ddelfrydol o ennill gradd gan fod y cynllun hefyd yn rhoi’r profiad imi o weithio mewn amgylchedd cyfreithiol. Mae wedi bod yn wych gweithio yma ochr yn ochr â mynychu’r Brifysgol ac rwy’n edrych ymlaen at y 5 mlynedd nesaf yma!”

 

Annie, Elin a Ellie

 

Cafodd ein myfyrwyr Rhwydwaith75 eraill ganlyniadau ardderchog yn eu harholiadau yn yr haf hefyd! Dyma ddiweddariad am sut maent yn ymdopi â chydbwyso eu hastudiaethau a’u bywyd gwaith:

Amy Bartlett

“Rwy’n falch iawn o fod wedi llwyddo yn fy arholiadau yn ystod y bedwaredd flwyddyn o’r Cwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC). Llwyddais i ennill graddau dosbarth cyntaf yn y rhan fwyaf o fy modiwlau LPC, a oedd yn syndod mawr imi gan fod pedwaredd flwyddyn y cwrs yn anodd iawn. Yn ystod fy mhedwaredd flwyddyn, cwblheais 3 modiwl, ynghyd ag 8 awr o waith yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol y brifysgol bob wythnos a fy swydd ran-amser arferol yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Roedd yn waith caled iawn ar adegau, ac weithiau roeddwn yn ei chael yn anodd cydbwyso’r llwyth gwaith, ond mwynheais y profiad ac rwy’n teimlo ei fod wedi fy helpu gyda’m twf personol a phroffesiynol.

Yn ystod fy mhedwaredd flwyddyn, rwyf wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm Esgeuluster Clinigol Cwm Taf Morgannwg. Rwyf wir wedi mwynhau fy amser yn y tîm ac rwyf wedi ennill llawer iawn o wybodaeth unwaith eto. Rwyf wedi profi cyfleoedd a heriau newydd yn y tîm, ac rwyf wedi wynebu’r cyfan yn ddidrafferth. Maent wedi bod yn dîm cefnogol dros ben, sydd wedi annog fy natblygiad drwy gydol fy amser gyda nhw.

Ym mis Medi, byddaf yn mynd i mewn i bumed flwyddyn, sef blwyddyn olaf, fy nghwrs. Byddaf yn ailymuno â’r tîm Masnachol a Rheoleiddiol, sef maes y gyfraith rwy’n gobeithio gweithio ynddo unwaith y byddaf yn dechrau fy ngyrfa fel cyfreithiwr cymwysedig. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn.”

Robyn Kelly

“Rwyf wrth fy modd i fod wedi llwyddo ym mhedwaredd flwyddyn fy ngradd gyda 2:1 ar y cyfan!

Gwnes i wynebu heriau newydd eleni ar ôl cael fy nghyflwyno i glinig cyfreithiol y brifysgol ac ymgymryd â’m cleientiaid fy hun. Roedd y profiad o ddelio ag amrywiol ymholiadau i helpu i ddod o hyd i atebion i bobl yn teimlo’n hanfodol wrth fireinio rhai o’r sgiliau y dechreuais eu datblygu yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg. Astudiais ragor o fy modiwlau LPC a chefais rai o’m canlyniadau arholiadau gorau hyd yn hyn, sydd wedi fy ngwneud yn optimistig ar gyfer blwyddyn olaf fy ngradd.

Mae’n deimlad swreal dweud fy mod yn mynd i fy mlwyddyn olaf fel myfyriwr Rhwydwaith75 ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth sydd gan y flwyddyn hon i’w gynnig.”

Ffion Price

“Rwyf mor hapus o fod wedi llwyddo yn ail flwyddyn fy ngradd Ymarfer Cyfreithiol Esemptio (LLB) gyda 2:1 ar y cyfan!

Mae’r flwyddyn academaidd hon wedi bod yn wahanol iawn i’r flwyddyn flaenorol, gan ein bod wedi bod ar y campws ar gyfer ein gweithdai yn hytrach na’u gwneud yn rhithwir. Roedd yn braf gweld pobl wyneb yn wyneb o’r diwedd, a gweithio mewn dosbarthiadau yn hytrach na thrwy sgrin.

Rwy’n parhau i synnu fy hun bob blwyddyn gyda pha mor dda rwyf wedi gallu gweithio o ystyried yr amgylchiadau y mae pob un ohonom wedi byw drwyddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn. Er ei bod wedi’i gwneud yn anoddach ar adegau, mae wedi dysgu ffordd newydd o weithio imi, ac wedi cryfhau fy annibyniaeth a’m penderfyniad i lwyddo.

Rwy’n edrych ymlaen at ddechrau fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol ac at ddechrau astudio fy modiwlau LPC, a fydd yn rhoi gwell syniad imi o sut olwg sydd ar rai meysydd o’r gyfraith a sut maent yn gweithredu. Rwy’n siŵr y bydd y profiad rwyf wedi ei gael drwy weithio yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn fy rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer rhai modiwlau, gan fod hyn wedi rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndirol imi ac oherwydd imi gael cymorth gan fy nghydweithwyr anhygoel. Rwy’n edrych ymlaen at wybod rhagor am feysydd newydd o’r gyfraith nad ydw i wedi dod i gysylltiad â nhw eto, ac at wella fy ngwybodaeth a’m sgiliau ymhellach gobeithio.”

 

Da iawn i bob un o’n myfyrwyr Rhwydwaith75. Mae pawb yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn gwerthfawrogi’r gwaith caled rydych chi’n ei wneud yn ein timau.