Sioned Eurig sy’n arwain y tîm Cyflogaeth, sy’n cynnwys Gemma Griffiths, Lorrelee Traynor, Peter Marshall, Christopher Childs, Damien Burns, Shan Evans, Louise Murray, Bethan Richards a Sammie Morris, Georgia Stocks a Penny Cooper. Maent i gyd wedi cymhwyso ac yn arbenigo mewn Cyfraith Cyflogaeth yn y GIG. Mae ein tîm hefyd yn elwa ar gefnogaeth gan Emma Jones, Elen Gibbin, Joy Oguntosin a Ffion Price.
Ers ei sefydlu yn 2012, mae’r Tîm wedi cynrychioli Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau mewn ystod eang ac amrywiol o achosion Tribiwnlys Cyflogaeth. Yn 2024, bydd gwasanaeth newydd cyffrous yn cael ei lansio a'i gynnig i'n cydweithwyr mewn sefydliadau Gofal Sylfaenol.
Mae’r tîm yn arbenigwyr cyfraith mewn cyflogaeth y GIG a meddygol. Ar hyn o bryd, maent yn cynghori ar faterion polisi strategol lefel uchel a phopeth sy’n ymwneud â chyfraith cyflogaeth. Rydym yn ymwybodol bod y materion yn effeithio ar GIG Cymru yn ei gyfanrwydd ac rydym yn delio â hwy yn fedrus, a gyda chraffter a diplomyddiaeth.
Mae ein cyfreithwyr cyflogaeth GIG arbenigol ar gael i roi cyngor ar bob agwedd ar gyfraith cyflogaeth a materion yn ymwneud â chysylltiadau cyflogeion, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
Gall y Tîm gynnig cymorth â’r materion dadleuol canlynol:
Pob math o hawliad mewn Tribiwnlys Cyflogaeth gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Gall y Tîm gynnig cymorth â’r materion annadleuol hyn hefyd:
Mae Cyfraith Cyflogaeth yn newid o hyd. Gall ein Tîm gynnig ystod eang o sgyrsiau a seminarau addysgol y gallwn ni eu darparu ar ein safle sydd â’r holl offer perthnasol. Gallwn ni deilwra ein pecynnau i rai chwarter diwrnod, hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn mewn safle sy’n gyfleus i’n cleient.
Mae pynciau diweddar yn cynnwys:
Ffôn: 02921 500434
E-bost: Sioned.Eurig@wales.nhs.uk
E-bost: legalandriskemploymentteam@wales.nhs.uk
Mae Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn darparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i gyrff y GIG yng Nghymru. Os na fydd eich ymholiad yn berthnasol i’r gwasanaethau y mae’r Tîm Cyflogaeth yn eu darparu, byddwn yn hapus i’ch cyfeirio at adran berthnasol yng Ngwasanaethau Cyfreithiol a Risg.