Mae’r Bartneriaeth Banc Cydweithredol (CBP) yn drefniant cydweithredol rhwng sefydliadau GIG Cymru lle mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cynnig hwyluso banc o staff a darparu staff nyrsio i sefydliadau GIG mewn ymateb i brinder staff dros dro neu dymor byr.
Fe wnaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) gyfleu ei bwriad i lansio'r Bartneriaeth Banc Cydweithredol ar 28/01/2020 yn dilyn cymeradwyaeth ffurfiol gan Bwyllgor y Bartneriaeth Cydwasanaethau ym mis Rhagfyr 2019. Lansiwyd y cynllun peilot ym mis Ebrill 2020 ar gyfer Nyrsys Cofrestredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae’r model Partneriaeth Banc Cydweithredol yn esblygu o’r Bwrdd Iechyd ‘cartref’ yn recriwtio gweithwyr i’w fanc lleol a PCGC gan hwyluso rhannu gweithwyr banc ledled GIG Cymru a darparu mynediad at dâl wythnosol. Mae'r datrysiad yn caniatáu i weithwyr banc o'r Bwrdd Iechyd lleol lenwi bylchau mewn rhestrau gwaith staff nyrsio.
Yn ogystal â gwella gofal cleifion, bydd y trefniant arfaethedig yn dod â buddion ychwanegol i staff y banc nyrsio, gan gynnwys y swyddogaeth i archebu sifftiau yn electronig a darparu tâl wythnosol. Mae hyn yn unol â threfniadau’r Banc Cydweithredol a’r Pasbort Nyrsio sydd eisoes ar gael yn NHS England.
Tâl wythnosol
Y gallu i weld ac archebu sifftiau mewn sawl Bwrdd Iechyd trwy ap ffôn clyfar
Gwyliau Blynyddol â Thâl am bob sifft a weithiwyd
Mynediad i Gynllun Pensiwn y GIG
Hysbysiad o sifftiau ymlaen llaw
Gweithio hyblyg i weddu i'ch ffordd o fyw
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni isod:
E-bost: Collab.Bank@wales.nhs.uk
Banc Cydweithredol - Taflen (PDF,627kb)
Banc Cydweithredol - Poster (PDF,380kb)
Banc Cydweithredol - Cwestiynau Cyffredin (PDF,378kb)
Banc Cydweithredol - Hysbysiad Preifatrwydd (PDF,206kb)
Ar ôl cofrestru, bydd angen i weithwyr lawrlwytho ap ar eu ffonau clyfar i weld ac archebu sifftiau; gwyliwch y fideo hon.
Gellir cael fersiwn Gymraeg o’r fideo hwn drwy anfon e-bost at Collab.Bank@wales.nhs.uk