Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth Banc Cydweithredol GIG Cymru

Lletyir Partneriaeth Banc Cydweithredol gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

 

Mae’r Bartneriaeth Banc Cydweithredol (CBP) yn drefniant cydweithredol rhwng sefydliadau GIG Cymru lle mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cynnig hwyluso banc o staff a darparu staff nyrsio i sefydliadau GIG mewn ymateb i brinder staff dros dro neu dymor byr.

Fe wnaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) gyfleu ei bwriad i lansio'r Bartneriaeth Banc Cydweithredol ar 28/01/2020 yn dilyn cymeradwyaeth ffurfiol gan Bwyllgor y Bartneriaeth Cydwasanaethau ym mis Rhagfyr 2019.  Lansiwyd y cynllun peilot ym mis Ebrill 2020 ar gyfer Nyrsys Cofrestredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae’r model Partneriaeth Banc Cydweithredol yn esblygu o’r Bwrdd Iechyd ‘cartref’ yn recriwtio gweithwyr i’w fanc lleol a PCGC gan hwyluso rhannu gweithwyr banc ledled GIG Cymru a darparu mynediad at dâl wythnosol. Mae'r datrysiad yn caniatáu i weithwyr banc o'r Bwrdd Iechyd lleol lenwi bylchau mewn rhestrau gwaith staff nyrsio.

Yn ogystal â gwella gofal cleifion, bydd y trefniant arfaethedig yn dod â buddion ychwanegol i staff y banc nyrsio, gan gynnwys y swyddogaeth i archebu sifftiau yn electronig a darparu tâl wythnosol. Mae hyn yn unol â threfniadau’r Banc Cydweithredol a’r Pasbort Nyrsio sydd eisoes ar gael yn NHS England.

 

Y manteision i’r gweithiwr

  1. Tâl wythnosol

  2. Y gallu i weld ac archebu sifftiau mewn sawl Bwrdd Iechyd trwy ap ffôn clyfar

  3. Gwyliau Blynyddol â Thâl am bob sifft a weithiwyd

  4. Mynediad i Gynllun Pensiwn y GIG

  5. Hysbysiad o sifftiau ymlaen llaw

  6. Gweithio hyblyg i weddu i'ch ffordd o fyw

 

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni isod:

E-bost: Collab.Bank@wales.nhs.uk

 

Dogfennau

 

pdf icon

 

Banc Cydweithredol - Taflen (PDF,627kb)

 

pdf icon

 

Banc Cydweithredol - Poster (PDF,380kb)

 

pdf icon

 

Banc Cydweithredol - Cwestiynau Cyffredin (PDF,378kb)

 

pdf icon

 

Banc Cydweithredol - Hysbysiad Preifatrwydd (PDF,206kb)

 

Ar ôl cofrestru, bydd angen i weithwyr lawrlwytho ap ar eu ffonau clyfar i weld ac archebu sifftiau; gwyliwch y fideo hon.

Gellir cael fersiwn Gymraeg o’r fideo hwn drwy anfon e-bost at Collab.Bank@wales.nhs.uk