Mae'r setiau o sgiliau sydd ar gael ac a ddefnyddir yn y tîm yn cwmpasu sbectrwm eang o swyddogaethau. Er mai'r swyddogaeth graidd yw cynorthwyo cymwysiadau Oracle, mae hefyd yn ofynnol i’r tîm gwmpasu'r safbwynt busnes ehangach ac, yn bwysig, y safbwynt technegol sydd ei angen i ddarparu a chynorthwyo manteision y system Fenter e-fusnes.
Drwy feddu ar setiau o sgiliau ar draws yr arena fusnes a thechnegol gall y tîm roi trosolwg o ofynion y gwasanaeth, ac yn ei dro mae hyn yn sicrhau bod rheoli newid a risg yn cael ei ddeall a'i reoli. Mae hyn yn galluogi'r tîm i ddarparu rôl ymgynghorol a mentora, gan godi ymwybyddiaeth y busnes o risgiau, problemau ac effaith newid mewn technoleg. Yn ogystal mae’n ofynnol i'r tîm canolog ddeall y technolegau gwahanol y gall datblygiadau busnes fod â diddordeb ynddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â'r cynnyrch craidd a wasanaethir a sicrhau manteision i'r gwasanaeth.
Mae cymwysterau ‘arbenigol’ a gydnabyddir gan y diwydiant ar draws sbectrwm o ddisgyblaethau allweddol yn sail i wybodaeth a sgiliau'r Tîm Canolog. Mae'r rhain yn cynnwys: Lean/Six Sigma, lefel ymarferydd Prince2, lefel ymarferydd Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus, lefel ymarferydd Rheoli Risg a lefel arbenigwr ITIL v3. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr amrywiaeth o sgiliau technegol, cymhwyso a busnes sydd eisoes i'w cael yn y tîm.