Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Biwro BACS

Dyn yn gwneud taliad â cherdyn credyd

Mae Tîm Canolog Gwasanaethau e-Fusnes yn Wasanaeth BACS ar gyfer GIG Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r biwro yn prosesu tua £5 biliwn o daliadau bob blwyddyn.

Beth yw BACS?

System dalu yw Bacs a ddefnyddir yn y DU i symud arian yn uniongyrchol o un cyfrif banc i’r llall. Caiff ei gweithredu a’i rheoli gan Bacs Payment Schemes Limited, y system sydd wedi bod ar waith ers yr 1960au hwyr. Mae Bacs yn gwmni sy’n cynnwys 16 o fanciau a chymdeithasau adeiladu mwyaf y DU, ac mae’n gyflym ac yn ddiogel.

Mae biwro yn gwmni sy’n cyflwyno cyfarwyddiadau talu yn uniongyrchol i Bacs ar ran ei chleientiaid. Er bod biwros yn prosesu gwasanaethau talu Bacs, gan gynnwys Debyd Uniongyrchol a Chredyd Uniongyrchol Bacs ar gyfer busnesau, mae Tîm Canolog Gwasanaethau e-Fusnes yn canolbwyntio ar Gredyd Uniongyrchol ar hyn o bryd (h.y. anfon taliadau i drydydd parti/trydydd parti enwebedig).