Neidio i'r prif gynnwy

Ein Pwrpas

Menyw yn ysgrifennu ar bad ysgrifennu

Datganiad Cenhadaeth  

Diben – prif ddiben y Tîm Canolog Gwasanaethau e-Fusnes (Mae angen cysylltiad rhwydwaith GIG Cymru i gael mynediad i'r ddolen) yw –

  • Rheoli atebion cymhleth Cyllid, Cadwyn Gyflenwi a Deallusrwydd Busnes Oracle a chynnyrch cysylltiedig arall ar gyfer y GIG yng Nghymru.
  • Darparu Cymorth Gweithredol Cofnod Staff Electronig i Gymru a gweithredu fel y pwynt cyswllt ar gyfer problemau’n ymwneud â gweithredu gwasanaethau yng Nghymru.
  • Sicrhau bod yr holl systemau sydd ar gael yn cael eu defnyddio'n llawn ac yn gweithio'n llwyddiannus gyda chyfres graidd Oracle o gynnyrch meddalwedd mentergarwch.
  • Darparu'r sbectrwm llawn o swyddogaethau rheoli gwasanaethau (strategaeth, dylunio, trosglwyddo, gweithredu a gwelliannau gwasanaeth parhaus)
  • Datblygu'r cynnyrch craidd a chysylltiedig yn barhaus a chyflawni gwelliannau gwasanaeth blynyddol ar y cyd â'n partneriaid strategol.
  • Darparu gwasanaethau rheoli prosiect a rhaglen cadarn ar gyfer y rhaglen ddatblygu, gan gynnwys caffael gwasanaethau a thrwyddedau TG.
  • Monitro gwasanaeth a pherfformiad ariannol y prif gontractwyr sy'n darparu'r systemau craidd.
  • Darparu methodoleg ailgodi tâl gadarn, monitro'n barhaus sail yr holl gostau a sail dosrannu ariannol y sefydliad.
  • Darparu gwasanaeth rheoli newid a risg.

 

Amcanion

  • Sicrhau bod strategaeth, cylch gwaith a maes gwaith y Tîm Canolog Gwasanaethau e-Fusnes (Mae angen cysylltiad rhwydwaith GIG Cymru i gael mynediad i'r ddolen) wedi'u cysoni'n llawn â gweledigaeth ac amcanion strategol GIG Cymru.
  • Rhoi arweiniad wrth ddatblygu'r weledigaeth strategol ar gyfer atebion Cyllid, Cadwyn Gyflenwi, Cofnod Staff Electronig, Deallusrwydd Busnes Oracle a chynnyrch cysylltiedig arall ar gyfer y GIG yng Nghymru
  • Datblygu cyfres o raglenni gwella gwasanaethau parhaus, wedi'u cysoni â gweledigaeth a strategaeth y cytunwyd arni'r GIG yng Nghymru.
  • Sicrhau bod y Tîm Canolog yn parhau i addasu i newid ac yn darparu gwasanaethau gwerth ychwanegol.
  • Cyflawni’r cylch gwaith y cytunwyd arno a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Chyfarwyddwyr Cyllid a grwpiau llywodraethu strategol cysylltiedig.
  • Darparu gwasanaethau cymorth sy'n gynaliadwy, y gellir eu rheoli, ac sy'n ychwanegu gwerth at y GIG yng Nghymru ac yn cyflawni'n unol ag arfer gorau a safonau'r diwydiant, er enghraifft ITIL.
  • Rheoli, cynorthwyo a datblygu'r cynnyrch Menter Oracle craidd a thechnolegau cysylltiedig ar gyfer y GIG yng Nghymru.