Bydd y Gwasanaeth Atal Twyll yn ymddangos ar deledu cenedlaethol yr wythnos hon (ddydd Iau 13 Mai am 11am) yn rhan o raglen ddogfen y BBC, ‘Fraud Squad’, sy’n dilyn ymchwilwyr sy’n ceisio dod o hyd i droseddwyr sy’n dwyn £1.25 biliwn y flwyddyn gan y GIG – o gylchoedd troseddu cyfundrefnol i staff y GIG eu hunain.
Mae’r rhaglen yn sôn am yr ymchwiliad yn erbyn Michael Lloyd o Fferyllfa Tonysguboriau ac mae’n cynnwys Arbenigwr Atal Twyll Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru, Mark Weston.
Yn ddiweddar, siaradom â Mark, sy’n rhoi manylion am yr ymchwiliad yn ogystal â’r rhaglen ddogfen ei hun.
Helo eto Mark, a diolch am siarad â ni cyn i chi ymddangos ar y teledu, ar ‘Fraud Squad’.
Beth fyddwn ni’n eich gweld chi’n ei gyflwyno?
Mae’r achos yn ymwneud â fferyllydd o’r enw Michael Lloyd o Fferyllfa Tonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n fusnes teuluol, ac mae pum fferyllfa yr oedd yn berchen arnynt ar y cyd â’i frodyr. Cafodd Lloyd ei ddedfrydu i 16 mis o garchar. Adenillom dros £76,000 ac, yn fwy diweddar, cafodd ei dynnu oddi ar restr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
Beth wnaeth e o’i le?
Roedd yn rhoi tabledi i’w gleifion, ond roedd yn newid y ffurflenni hawlio am bresgripsiynau er mwyn hawlio am fformiwleiddiadau drutach, a oedd weithiau’n costio ganwaith yn fwy i’r GIG.
Pa effaith mae dweud y mathau hyn o straeon ar y teledu yn ei chael?
Mae’n gyfle i ddangos y gwaith mae Gwasanaeth Atal Twyll y GIG (Cymru) yn ei wneud. Mae gan y BBC gynulleidfa fawr, ac mae’n ymddangos bod y cyhoedd yn mwynhau’r mathau hyn o achosion ac mae’r adborth a gawn ar ôl inni ddarlledu bob amser yn gefnogol iawn. Yn ogystal â gweithredu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac i ysgogi pobl i adrodd i’r llinell adrodd am dwyll ac i’r Arbenigwyr Atal Twyll Lleol (LCFS) mewn cyrff iechyd yn GIG Cymru, mae’n ffordd ardderchog o rwystro’r rhai sy’n cael eu temtio rhag cyflawni twyll.
Beth oedd yn gwneud yr achos hwn yn un da i’w ddangos ar y teledu?
Yn gyntaf, mae’n dangos maes gweithredu â blaenoriaeth, lle mai’r gred yw na adroddir am dwyll yn ddigonol. Mae hefyd yn enghraifft ardderchog arall o dri sancsiwn llwyddiannus, i ddangos effeithiolrwydd y dull tracio triphlyg [erlyn, adennill ariannol a chyfeirio at y corff proffesiynol].
Wnaethoch chi erioed ofni y byddai’r achos yn llithro o’ch gafael?
Roedd yn eithaf clir o ddechrau’r achos hwn bod y dystiolaeth yno a bod angen inni ei chyfnerthu â haenau gwahanol o dystiolaeth o nifer o ffynonellau. Haws dweud na gwneud, wrth gwrs.
Mae ffilmio rhaglenni dogfen yn cymryd cryn amser ac egni. A gafodd effaith negyddol ar eich gwaith o ddydd i ddydd?
Do – mae’n siŵr y cymerodd yr eitem hon tua dau ddiwrnod o fy amser yn ffilmio. Rydw i hefyd wedi gweithio gyda’r cwmni cynhyrchu ar faterion eraill ac wedi gwirio’r golygiadau cyntaf i sicrhau cywirdeb.
Yn ffodus, llwyddais i ddarbwyllo’r tîm cynhyrchu i gael gwared ar y cyfeiriad a oedd yn fy nghymharu i â Victor Meldrew, sy’n hollol anghywir! Dydw i ddim yn credu’r peth! Byddai fy nghydweithwyr wedi bod yn siarad am hynny am flynyddoedd i ddod.
Pa wersi fydd y cyhoedd yn eu dysgu ar ôl gwylio’r rhaglen ddogfen hon?
Gobeithio y byddant yn dysgu i beidio â chyflawni twyll yn erbyn y GIG, i adrodd am dwyll, ac i gefnogi’r gwaith a wnawn i ddiogelu arian y cyhoedd rhag y bobl farus hynny sy’n cyflawni twyll. Bydd pob cyhuddiad o dwyll yn cael ei gymryd o ddifrif, a bydd yn destun ymchwiliad.
Pa wersi fydd y gymuned fferyllol yn eu dysgu?
Ni fu llawer o erlyniadau twyll fferyllol yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n gwybod yn sicr bod yr achos llys hwn wedi cael effaith ar y gymuned fferyllol a’r gobaith yw y bydd yn rhwystro achosion o’r fath rhag digwydd eto.
A oes dull cydgysylltiedig yn cael ei fabwysiadu mewn perthynas â thwyll fferyllol?
Rydym yn gweithio’n agos gyda PCGC ac Archwilio Cymru yn y maes hwn ar hyn o bryd, gan ei fod wedi’i anwybyddu rywfaint am gryn amser. Rydym yn parhau i weithio’n agos gydag Awdurdod Atal Twyll y GIG a Gwasanaethau Atal Twyll Lleol (LCFS) mewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru. Yn ogystal, rhaid imi gydnabod y cymorth sylweddol a gawsom ar yr achos penodol hwn gan Dîm Fferylliaeth Gymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a darparodd Uned Cyfrifiadura Fforensig Awdurdod Atal Twyll y GIG gymorth sylweddol hefyd.
Ai dyma’ch tro cyntaf ar y rhaglen?
Ie, ond roeddwn i ar ‘Saints and Scroungers’ ychydig flynyddoedd yn ôl – gobeithio mai ‘Saint’ oeddwn i ac nid ‘Scrounger’!
Pa fath o achos wnaethoch chi ei gyflwyno y tro diwethaf?
Twyll deintyddol oedd yr achos diwethaf, gan Dr Venter o Landrindod. Roedd yn enghraifft dda o ble wnaethom sicrhau tri sancsiwn llwyddiannus unwaith eto: 18 mis yn y carchar, adenillion ariannol o £48,000 (yn ogystal â chostau £30k) a chafodd ei dynnu oddi ar restr y Cyngor Deintyddol Cyffredinol hefyd.
Beth mae’r rhaglen hon yn ei ddangos am feddwl ymchwilydd twyll?
Rwy’n gobeithio ei bod yn dangos sut mae’n rhaid i bob un ohonom gael meddwl agored yn ystod pob ymchwiliad, ac ystyried y sancsiynau mwyaf priodol bob amser. Mae hefyd yn dangos bod yn rhaid inni fod yn amyneddgar ac yn drefnus iawn a bod yn rhaid inni ddefnyddio ein profiad.
A oeddech chi’n ystyried bod y gwaith teledu hwn yn rhan o’ch swydd neu’n rhywbeth ar wahân?
Mae’n rhywbeth gwahanol i fy swydd o ddydd i ddydd a dydw i ddim yn meindio gwneud hyn unwaith bob ychydig flynyddoedd. Mae’r holl beth yn rhan o’n swydd ehangach o rwystro twyll trwy godi ymwybyddiaeth ohono, ac mae hwn bob amser yn gyfle ardderchog.
Pa gymorth wnaethoch chi ei dderbyn gan Graham Dainty, sef Pennaeth Gwasanaeth Atal Twyll y GIG (Cymru), a gweddill y tîm?
Mae Graham a’r tîm bob amser yn gefnogol iawn. Cyfrannodd gweddill y tîm, yn enwedig fy nghydweithiwr Jenna, yn sylweddol at yr achos hwn. Rydym yn dîm agos iawn ac rydym bob amser yn cefnogi’n gilydd ym mhopeth a wnawn, felly bydd hynny’n helpu pan fyddwch yn mynd ati i greu rhaglen deledu, gan wybod bod posibilrwydd y gall rhywbeth fynd o’i le, ond bod gennych gefnogaeth os bydd hynny’n digwydd. Ond heb amheuaeth, bydd ychydig o bryfocio i ddilyn ar ôl i’r rhaglen ymddangos ar y sgrin.
A oes unrhyw adegau sy’n aros yn y cof tra oeddech yn ffilmio?
Mae’n debyg bod yr adegau a oedd yn peri pryder yn cynnwys ceir. Roeddwn i’n arfer prydlesu fy nghar trwy NHS Fleet Solutions felly bûm yn ofalus iawn wrth wirio a fyddai’r cwmni teledu yn talu am y difrod i’r car petai rhywbeth yn digwydd iddo. Gallwch weld yn y llun eu bod wedi gosod sugnwyr mawr ar fonet fy nghar ar gyfer y camera. Roedd yn teimlo ychydig fel Top Gear. Roedd ‘Saints and Scroungers’ yn waeth. Roedd y person camera yn eistedd yn sedd y teithiwr wrth imi yrru o gwmpas, ac roedd yn dal y camera fodfeddi o fy wyneb i wrth imi geisio canolbwyntio ar yrru’r car wrth ddynesu at gylchfan brysur iawn. Hunllef.
Fyddech chi eisiau cael y profiad hwn eto?
Mae nawr ac yn y man yn iawn. Dyna fi wedi gorffen ar ôl ychydig o raglenni teledu – rwy’n credu mai tro rhywun arall yw hi y tro nesaf. Ond... wna i ddim dweud byth eto.
Diolch, Mark. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at wylio.