Mae wedi bod yn flwyddyn dyngedfennol i’r GIG a’r sector iechyd ers Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth Twyll 2019 ac mae’r wythnos atal twyll yn fwy pwysig nag erioed yn 2020. Y llynedd, cefnogodd dros 110 o sefydliadau’r GIG Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth Twyll, ac roedd llawer ohonynt yn defnyddio’r adnoddau ymgyrchu a ddatblygwyd gan Awdurdod Atal Twyll y GIG.
Mae gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru gylch gwaith i adnabod a mynd i'r afael â throsedd economaidd gan gynnwys twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn GIG Cymru. Mae Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru yn rhan o Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Am ragor o wybodaeth ar waith Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru, ewch i wefan PCGC a chlicio ar y tab ‘Gwasanaeth Atal Twyll’. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr achosion twyll yn GIG Cymru, yna dewiswch Mathau o Dwyll yng Nghymru a/neu Euogfarnau yn GIG Cymru.
Mae gan bob corff iechyd yn GIG Cymru Arbenigwr Atal Twyll Lleol enwebedig sy’n gyfrifol am ddarparu Cynllun Gwaith Atal Twyll rhagweithiol i leihau’r risg o droseddau twyll yn GIG Cymru. I ddarganfod mwy am eich Arbenigwr Atal Twyll Lleol, ewch i dudalen we’r Arbenigwr Atal Twyll Lleol ar wefan PCGC.
Er mai ffocws clir yr ymgyrch hon yw amddiffyn adnoddau'r GIG rhag twyll a throseddau economaidd cysylltiedig, mae Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth Twyll hefyd yn gyfle i ledaenu'r gair am sut y gall unigolion amddiffyn eu hunain rhag twyll hefyd.
Ni waeth beth fo’ch rôl yn y GIG, ymunwch yn y frwydr yn erbyn twyll trwy ledaenu’r gair. Gall unrhyw un â diddordeb gwirioneddol mewn atal twyll ymuno yn yr ymgyrch. Efallai eich bod yn weithiwr, contractir, staff asiantaeth neu’n wirfoddolwr y GIG mewn unrhyw sefydliad y GIG neu sefydliad cysylltiedig.
Mae Awdurdod Atal Twyll y GIG yn awdurdod iechyd arbennig â’r dasg o arwain y frwydr yn erbyn twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn y GIG. Mae Gwasanaeth Atal Twyll y GIG wedi cynhyrchu ystod o faneri byr a phosteri wedi’u brandio gan y GIG i ledaenu’r gair, gyda negeseuon allweddol y gellir eu deall yn hawdd fel “ATAL twyll”.
Mae'r deunyddiau cyhoeddusrwydd sydd ar gael ar wefan Gwasanaeth Atal Twyll y GIG yn tynnu sylw at y ffaith y gall y GIG ddod yn fwy agored i dwyll yn ystod digwyddiadau annisgwyl fel pandemig COVID-19, ac mae gwyliadwriaeth barhaus yn hanfodol. Maent ar gael yn Gymraeg a Saesneg gan eich Arbenigwr Atal Twyll Lleol. Rhowch wybod i’ch Arbenigwr Atal Twyll Lleol os ydych wedi rhannu neu arddangos y deunyddiau cyhoeddusrwydd yn eich adran/sefydliad.
Twyll yw'r trosedd rydych chi'n fwyaf tebygol o'i brofi yn ystod eich oes, ac eto mae siawns dda na welwch chi byth dwyll yn digwydd. Mae twyll yn drosedd gudd, gan fod twyllwyr yn defnyddio dichell ac yn targedu gwendidau mewn pobl a systemau i wneud elw ariannol.
Mae twyllwyr hefyd yn defnyddio technoleg yn fwyfwy soffistigedig, fel y gwnaethoch sylwi efallai os gwnaethoch chi erioed dderbyn e-bost neu lythyr ‘credadwy’ iawn yn gofyn i chi anfon arian neu ddarparu eich manylion ariannol.
Nid oes unrhyw unigolyn na sefydliad yn gallu osgoi bygythiad twyll, ac nid yw'r GIG yn eithriad. Mae Awdurdod Atal Twyll y GIG yn amcangyfrif bod y GIG yn agored i dros £1.2 biliwn o dwyll bob blwyddyn – mae hynny’n gyfwerth â chost 40,000 o nyrsys.
Y Gallwch hefyd helpu trwy adrodd am amheuon neu bryderon ynghylch twyll yn erbyn y GIG. Mae'n hawdd ac yn syml adrodd am dwyll drwy:
Cysylltwch â’ch Arbenigwr Atal Twyll Lleol ar 02921 836265 neu anfonwch e-bost at Craig.greenstock@wales.nhs.uk
Cysylltwch â Gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru ar 01495 334100 neu anfonwch e-bost at Enquiries@nhscfswales.gov.uk
Cliciwch ar y ddolen i fynd i’r offeryn ar-lein i adrodd am dwyll yn y GIG
Ffoniwch linell radffôn Awdurdod Atal Twyll y GIG ar 0800 028 40 60 (24 awr y dydd). Mae pob adroddiad yn cael ei drin yn gwbl gyfrinachol, ac mae gennych yr opsiwn i adrodd am eich pryderon yn ddienw.