Neidio i'r prif gynnwy

Mathau o Dwyll yn GIG Cymru

Mae sawl ffurfiau o dwyll yn erbyn y GIG; dyma ond rhai o enghrieffitiau:

  • Hawliadau ffug - Gall hyn amrywio o gleifion sy’n hawlio triniaethau rhad ac am ddim pan nad oes ganddynt yr hawl iddynt, i weithwyr proffesiynol yn y GIG sy’n hawlio arian am wasanaethau nad ydynt wedi’u darparu.
  • Twyll caffael - Mae hyn yn ymwneud â thwyll a gyflawnir mewn perthynas â phrynu nwyddau a gwasanaethau gan sefydliad yn y GIG.
  • Methu â datgelu gordaliadau cyflog - Bydd hyn yn digwydd pan fydd aelod o staff yn methu â datgelu ei fod wedi derbyn gormod o dâl cyflog. Dylai aelodau o staff wirio eu slipiau cyflog bob amser ac mae dyletswydd arnynt i roi gwybod am unrhyw anomaleddau.
  • Gweithio yn rhywle arall yn ystod absenoldeb salwch - Mae hyn yn ymwneud ag aelod o staff sy’n gweithio i ail gyflogwr drwy wneud honiad ffug nad yw’n ffit i weithio yn y GIG.
  • Cam-gynrychioli cymwysterau neu brofiad - Bydd hyn yn digwydd pan fydd rhywun sy’n ymgeisio am swydd yn honni bod ganddo gymwysterau neu brofiadau nad oes ganddo mohonynt mewn gwirionedd. Bydd hyn yn arbennig o ddifrifol pan fydd yn digwydd mewn swyddi uwch neu swyddi meddygol.
  • Twyll amserlenni - Bydd hyn yn digwydd pan fydd staff yn ffugio eu hamserlenni. Er enghraifft, er mwyn cael eu talu am oriau nad ydynt wedi’u gweithio, mewn gwirionedd.

Am ragor o wybodaeth am y mathau amrywiol o dwyll yn y GIG, ewch i Restr Gyfeirio Twyll y GIG. gan Awdurdod Atal Twyll y GIG.

Twyll yn eich gweithle?

Twyll yn y GIG.
Sylwch arno. Rhowch wybod amdano.
Gyda’n gilydd, gallwn ei atal.

Ffoniwch

0800 028 4060

 

NHS Fraud Graphic