Neidio i'r prif gynnwy

Euogfarnau yn GIG Cymru

Mae twyll yn erbyn GIG Cymru yn golygu bod yr arian a fwriadwyd ar gyfer gofal cleifion, sydd wedi’i ddarparu gan y trethdalwr, yn diweddu ym mhocedi’r rhai nad ydynt wedi ennill yr arian hwn yn gyfreithlon. Ein rôl yw dwyn y rhai sydd wedi cyflawni trosedd economaidd yn erbyn y GIG i gyfrif, gan ganfod troseddwyr, ymchwilio iddynt a’u herlyn.

Cymerwch olwg ar rai o’n herlyniadau llwyddiannus isod:

Magnifying glass saying fraud<br>
Tri rheolwr yn cael carchar am dwyll gwerth £822,000

Cafodd tri rheolwr yn GIG Cymru eu dedfrydu i gyfanswm o 14 mlynedd o garchar (am dwyll gwerth £822,000 yn erbyn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys) yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru.

Pharmacist fraud
Tynnu fferyllydd oddi ar y rhestr fferyllol yn dilyn euogfarn am dwyll gwerth £76,475

Cafodd y fferyllydd Michael Lloyd ei dynnu oddi ar Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar 22 Medi 2020. Cymerwyd y cam hwn yn dilyn gwrandawiad disgyblu a gynhaliwyd gan bwyllgor addasrwydd i ymarfer y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.

NHS Wales Nurse uniform
Nyrs yn euog o ddwyn ar ôl ymchwiliad gan y Gwasanaeth Atal Twyll

Methodd un nyrs, y talwyd cyflog misol iddi am 17 o fisoedd ar ôl iddi orffen yn ei swydd, â datgelu’r camgymeriad i’w chyn reolwyr.

Overpayment fraud
Gweithiwr y GIG yn cael carchar am 6 mis a gwaharddiad o 12 mis yn dilyn twyll gordaliad o £20,000

Yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru, dedfrydwyd Lauren O’Keefe, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, i 6 mis o garchar a chafodd ei gwahardd am 12 mis wedi iddi wario’r holl arian yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi ei ordalu iddi trwy gamgymeriad.

aeroplane landing in America
Myfyriwr Nyrsio yn y GIG yn cael carchar am dwyll yn erbyn y GIG a Thwyll Credydau Treth

Roedd myfyrwraig nyrsio a hawliodd fwy na £70,000 mewn credydau treth drwy dwyll yn byw bywyd “moethus”, roedd yn mwynhau gwyliau gyda’i gŵr, cafodd lawdriniaeth blastig a chymerodd gydfenthyciad ar gyfer eiddo rhannu amser yn America.

show jumping
Cyn Reolwr yn y GIG yn Euog o Dwyll yn dilyn Ymchwiliad gan Wasanaeth Atal Twyll GIG Cymru

Honnodd Elise David, Rheolwr Blaenorol y Labordy Profi Dyfeisiau Llawfeddygol, ei bod mewn gormod o boen i weithio ond cafodd ei dal ar gamera yn neidio dros ffensys mewn pedwar digwyddiad marchogaeth gwahanol.