Mae gan bob corff iechyd yng Nghymru Arbenigwr Atal Twyll Lleol enwebedig sy’n mynd i’r afael â thwyll ar raddfa lai ym mhob corff iechyd. Dylid rhoi gwybod am faterion atal twyll sy’n dod i’r amlwg ym Mhartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i Craig Greenstock, Arbenigwr Atal Twyll Lleol y sefydliad. Craig Greenstock (yn y llun), yw Arbenigwr Atal Twyll Lleol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Ers 1 Mehefin 2012, mae Craig wedi bod yn gyfrifol am gyflawni gwaith atal twyll ar gyfer y Bartneriaeth Cydwasanaethau fel rhan o drefniadau’r corff sy’n lletya’r sefydliad, sef Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.