Cynhyrchu Achos Busnes Amlinellol yn unol â gofynion Model Pum Achos Llywodraeth Cymru.
Ystyriwyd goblygiadau cyflawni arfer gorau wrth wneud y canlynol:
S01 |
Lleihau’r risgiau i gleifion, staff a sefydliadau drwy gydymffurfio â’r safonau diweddaraf ar ddihalogi llieiniau. |
S02 |
Rhoi cymorth effeithiol i wasanaethau clinigol drwy ddarparu gwasanaethau llieiniau o’r ansawdd uchaf. |
S03 |
Darparu gwasanaeth cytbwys ar draws GIG Cymru a hyrwyddo cysondeb rhwng safleoedd. |
S04 |
Darparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf sy’n cynnig y gwerth gorau am arian o ran cost fesul uned. |
S05 |
Sicrhau'r lefel briodol o alluedd er mwyn ateb y galw sy'n newid o hyd ac er mwyn lleihau'r perygl y bydd y gwasanaeth yn methu. |